Nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl ethnigrwydd ac Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Ardal
1940 o 1940 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cymraeg
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ethnigrwydd
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

16eg Mehefin 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad 2021

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata yma yn dangos cyfrif a chanrannau o bobl yng Nghymru fesul grŵp ethnig (ar lefel uchel) a'u gallu i siarad Cymraeg ar gyfer Cymru ac ardaloedd bychain (AGEHI neu Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is). Mae'r data ar gyfer preswylwyr arferol o Gyfrifiad 2021. Mae'r cyfrif yn dangos y nifer o bobl o grŵp ethnig penodol a'u gallu i siarad Cymraeg mewn ardal, ac mae'r canran yn dangos y gyfran o bobl o grŵp ethnig penodol a'u gallu i siarad Cymraeg mewn ardal.

Y grŵp ethnig yw hynny y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo fel y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol. Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb. Mae'r set ddata yma yn dangos y pump grŵp ethnig (ar lefel uchel), sef: Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig; Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd; Grwpiau Cymysg neu Amlethnig; Gwyn; Grŵp ethnig arall.

Mae gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn y cyfrifiad yn seiliedig ar hunanasesiad unigolyn o'i allu. Mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer plant, adroddwyd ar sgiliau Cymraeg gan rywun arall, rhiant neu warcheidwad er enghraifft.

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol o'r Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu bod y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r amcangyfrifon a ddarparwyd ar gyfer preswylwyr arferol ar Ddydd y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Casglwyd y data fesul holiaduron ar gyfer pob aelwyd a sefydliad cymunedol yng Nghymru. Gweler wybodaeth ansawdd a methodoleg am Gyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol am fwy o wybodaeth - darperir dolen yn yr adran Adroddiadau Cysylltiedig.

Ansawdd ystadegol

Mae’r cyfrifiad yn darparu’r llun manylaf o’r holl boblogaeth, gyda’r un cwestiynau craidd yn cael eu gofyn i bawb ar draws Cymru a Lloegr. Mae llai o ffin cyfeiliornad yn y cyfrifiad nac yn holiaduron sy’n seiliedig ar sampl o’r boblogaeth, oherwydd mae’r holl boblogaeth wedi ei chynnwys.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Efallai ni fydd y cyfansymiau'n cyfateb yn union oherwydd rheoli datgelu ystadegol. Weithiau mae'n rhaid gwneud newidiadau i'r data os mae'n bosib adnabod unigolion. Gelwir hyn yn rheoli datgelu ystadegol. Mae'r rheoli datgelu a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn cynnwys: Cyfnewid cofnodion (wedi'i dargedu). Er enghraifft, os oedd posibilrwydd adnabod aelwyd yn y setiau data oherwydd fod gan yr aelwyd nodweddion anarferol, fe gyfnewidiwyd y cofnod gydag un tebyg o ardal bach sy'n agos (gallai aelwydydd anarferol iawn gael eu cyfnewid gydag un mewn awdurdod lleol agos). Ychwanegu newidiadau bach i rai cyfrifon (aflonyddiad ar lefel cell ddata). Er enghraifft, gellir newid rhifyn o bedwar i rhif tri neu rhif pump. O ganlyniad i’r dulliau hyn, mae’n bosibl na fydd cyfansymiau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru yn cyfateb yn union i swm yr ardaloedd daearyddol llai cyfatebol, a gall gwahaniaethau bach hefyd ddigwydd rhwng tablau yn dibynnu ar sut mae’r data wedi’u grwpio neu’u cyflwyno.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
dataiaithgymraeg@llyw.cymru