Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 30ain Mehefin 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025
- 17eg Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Locum Hub Wales (LHW)
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Darparwr data 3
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Mehefin 2021 i Medi 2025
- ID y set ddata
- 581f59d6-1a4f-4f24-9236-e28e5b66c611
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae hyn yn dangos nifer (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) y meddygon teulu cwbl gymwysedig a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol, ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 30-Meh-21.
- Cyfrifo neu gasglu data
Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.
Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sydd â mwy nag un contract yn yr un bwrdd iechyd lleol yn cael ei gyfrif unwaith yn y bwrdd hwnnw. Fodd bynnag, byddai unigolyn sydd â chontract mewn mwy nag un bwrdd iechyd lleol yn ymddangos unwaith yn erbyn pob bwrdd. Felly ni ellir cyfrifo’r ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol.
Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau ar ddyddiad y ciplun.
- Ansawdd ystadegol
Noder nad yw'n ofynnol i staff locwm nodi eu oed wrth gofnodi gwaith yn Locum Hub Wales, ac felly y rhain sydd i’w cyfrif am gyfran fawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig nad oes gwybodaeth hysbys ar eu cyfer.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru