Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yn ôl darparwr, math o werthiant ac awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026
Diweddariadau
- 10fed Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data am werthiant tai cymdeithasol
- Cyfnod amser dan sylw
- Hydref 1980 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer gwerthiannau tai awdurdodau lleol a thai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL). Mae'n cynnwys gwerthiannau tai cymdeithasol a stoc arall. Defnyddir y data i helpu i fonitro tueddiadau lefel gyffredinol stoc dai Cymru ac i asesu lefel y gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r data yn cael eu defnyddio hefyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau'r cyflenwad o dai ledled Cymru ac fel ffordd o fesur a yw'r angen o ran tai yn cael ei ddiwallu.
Darparwr yw math o landlord yr anheddau a werthwyd. Sefydliadau sy'n darparu ac yn rheoli anheddau ar gyfer pobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio rhenti neu brynu cartref yn breifat yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs). Mae RSLs wedi'u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu rheoleiddio i gynnal safon reolaeth dda.
Mae'r math o werthiannau yn disgrifio gwerthiannau statudol tai cymdeithasol drwy'r cynlluniau Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael, yn ogystal â gwerthiannau anstatudol (gwirfoddol ac eraill) stoc a ddelir gan awdurdodau lleol ac RSLs. Dim ond ar gyfer yr anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y mae'r gwerthiannau Hawl i Gaffael a'r gwerthiannau Cymorth Prynu sydd wedi'u cynnwys yn briodol. .
Y lefel isaf o ddaearyddiaeth y data sydd ar gael yn y set ddata hon yw awdurdodau lleol Cymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu drwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar y gwerthiannau a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Am ragor o wybodaeth gweler yr adroddiad ansawdd gwerthiannau tai cymdeithasol, a geir mewn adroddiadau cysylltiedig.
- Ansawdd ystadegol
Hyd at 2010 i 2011 cafodd y data eu casglu bob chwarter, ac o 2011 i 2012 cafodd y data eu casglu'n flynyddol. Mae'r ffigurau ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynrychioli'r gwerthiannau yn ystod pob un o'r blynyddoedd ariannol o Ebrill i Fawrth.
Yn dilyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r ffordd roedd data ar Werthiannau Tai Landlordiaid Cymdeithasol yn cael eu casglu, o 2013-2014 roedd yr un ffurflen yn cael ei defnyddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Gwnaed hefyd newidiadau i'r eitemau data a oedd yn cael eu casglu, yn unol â chynigion yr ymgynghoriad.
Sylwer, oherwydd pandemig COVID-19 yn 2020, na chasglwyd data ar werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer 2019 i 2020.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y datganiad gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol a'r adroddiad ansawdd gwerthiannau tai cymdeithasol, a geir mewn adroddiadau cysylltiedig.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru