Nifer y practisau cyffredinol gweithredol yn ôl nifer o staff a bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026
Diweddariadau
- 30ain Ebrill 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025
Ar gyfer y mesur staff: 'pob aelod o staff gan gynnwys locymau meddygon teulu', ni ddangosir data maint practis bellach ar gyfer Mawrth 2020 i Fawrth 2021, gan mai dim ond o fis Mehefin 2021 y daeth data locwm ar gael. Roedd y data maint practis a ddangoswyd o'r blaen yr un fath â 'pob aelod o staff ac eithrio locymau meddygon teulu'.
- 16eg Hydref 2025
- 16eg Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Locum Hub Wales (LHW)
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Darparwr data 3
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2015 i Medi 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y practisau cyffredinol gweithredol yn ôl maint y practis a'r bwrdd iechyd lleol ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 30 Medi 2015.
- Cyfrifo neu gasglu data
Diffinnir maint y practis fel nifer y staff cyffredinol (cyfrif pennau) mewn practis, wedi'i grwpio i fandiau o 10. Mae'r data'n cael eu cyflwyno gyda staff locwm (staff dros dro) wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y cyfrif pennau, a'u heithrio o'r cyfanswm hwnnw, sy'n pennu maint y practis.
O 30 Medi 2025 ymlaen, daw data gweithlu practisau cyffredinol o System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS), sy'n disodli System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) a fu'n ffynhonnell ddata ers 2020.
- Ansawdd ystadegol
Dim ond o fis Mawrth 2020 ymlaen y mae'r dadansoddiad o faint practisau ar gael yn unol â'r dyddiadau lle rydym wedi cael data gan System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd ar y Gweithlu (WNWRS). Nid yw'r cyfrif pennau o staff locwm ar gael cyn mis Mehefin 2021, ac felly nid yw'n rhan o gyfanswm y cyfrif pennau a ddefnyddir i bennu maint practisau yn y data 'pob aelod o staff gan gynnwys meddygon teulu locwm' cyn y dyddiad hwn. Ar gyfer cymariaethau ar draws cyfnodau cyn mis Mehefin 2021 ac ar ôl hynny, rydym yn argymell defnyddio'r data 'pob aelod o staff ac eithrio meddygon teulu locwm', gan eu bod yn eithrio staff locwm ar ddyddiad pob ciplun. Hyd at fis Mawrth 2019, roedd practisau cyffredinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. O fis Mehefin 2019 ymlaen, maent wedi cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. O ganlyniad, mae newid sylweddol yn y data.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru