Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, yn ôl cyfradd treth, mesur a cyfnod adrodd (blwyddyn a chwarter)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
39 o 39 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfradd treth
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:14 Mai 2026

Diweddariadau

12fed Chwefror 2026

Data newydd / diwygiedig

13eg Tachwedd 2025
29ain Medi 2025
29ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdod Cyllid Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni treth gwarediadau tirlenwi
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2018 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

O 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Tirlenwi yng Nghymru gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chaiff ei chasglu a’i rheoli gan yr Awdurdod, yr awdurdod treth newydd ar gyfer Cymru. Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd. Mae'r dreth yn cymell dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i ddulliau eraill llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gyda’r Awdurdod ar gyfer dychwelyd ffurflen Treth Gwarediadau Tir, y mae’n rhaid iddi gael ei derbyn erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:

  • cyfradd treth: gwastraff rhyddhad neu ddisgownt, cyfradd safonol, a chyfradd is (yn cynnwys dadansoddiad ar gyfer gronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW))
  • mesur: treth yn ddyledus a phwysau a waredwyd - cyfnod adrodd (blwyddyn a chwarter)

Mae gwastraff rhyddhad neu ddisgownt yn cynnwys pwysau dwr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi. Y dreth sy'n ddyledus yw'r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dwr, nad yw’n cael ei drethu.

Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.

Nid yw’r data yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r dychweliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi unigol a gyflwynwyd i'r Awdurdod gan weithredwyr safle tirlenwi , sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni.

Mae'r data yn un dros dro ar hyn o bryd a gallai gael ei ddiwygio mewn datganiadau yn y dyfodol i roi cyfrif am ddiweddariadau i ffurflenni, er enghraifft yn dilyn gwiriadau lliniaru ac adfer arferol a wneir gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 1,000 tunnell agosaf ac i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Awdurdod Cyllid Cymru
E-bost cysylltu
data@acc.llyw.cymru