Lluosyddion ardrethi annomestig hanesyddol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026
Diweddariadau
- 15fed Ebrill 2026
Mae'r teitl wedi'i newid i gyd-fynd â'r meini prawf newydd.
Mae data 2026-27 wedi'u hychwanegu.
- 14eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1990 i Mawrth 2027
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol y mae perchnogion neu feddianwyr (‘talwyr ardrethi’) eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu gwasanaethau lleol drwyddi.
Y Lluosydd Ardrethu Annomestig (NDR) yw'r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae'r set ddata hon yn darparu'r lluosydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae'r lluosydd yn cael ei osod yn flynyddol gan Weinidogion Cymru, a hyd at 2026-27 roedd yr un lluosydd yn gymwys i bob eiddo annomestig yng Nghymru. O 2026-27 ymlaen, cafwyd system tri lluosydd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cyn 2018-19, roedd y lluosydd yn cynyddu yn ôl dim mwy na chyfradd y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) (y tu allan i flwyddyn ailbrisio). Ers 2018-19, mae'r lluosydd ardrethu annomestig wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru osod gwerth is na'r mynegai perthnasol, a digwyddodd hynny yn 2021-22, 2022-23 a 2023-24.
O 2026-27, mae'r lluosydd sengl wedi'i rannu'n dri lluosydd. Mae lluosydd 'manwerthu' is, ar gyfer eiddo yn y sector manwerthu sydd â gwerth ardrethol hyd at £51,000. Mae lluosydd 'uwch', ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol dros £100,000. Mae lluosydd 'safonol' hefyd ar gyfer pob eiddo arall.
- Ansawdd ystadegol
Ceir gwybodaeth lawn am ansawdd y data ym mhob cyhoeddiad sy'n ymwneud â Chyllid Llywodraeth Leol yn yr adroddiad ansawdd ystadegol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- localtaxationpolicy@llyw.cymru