Asesiadau golwg gwan WGOS 3 yn ôl math o asesiad, nodwedd y claf, cyflwr a bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math Asesiad
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Nodwedd neu Gyflwr
21 o 21 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027

Diweddariadau

8fed Hydref 2026

Data newydd wedi'u hychwanegu ar gyfer 2025-26.

Mae'r data ethnigrwydd a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2014-15 wedi'u dileu oherwydd eu dibynadwyedd isel.

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 2
Cerdyn Cofnodi Asesiad Golwg Gwan
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2011 i Mawrth 2026
ID y set ddata
51721e13-a08e-4517-8db7-c75ebbd2fd1e

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr asesiadau Golwg Gwan yng Nghymru. Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato.

Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl nodweddion y claf fel oedran ac ethnigrwydd, cyflyrau llygaid a ddewiswyd, ac a oedd yr asesiad yn un cychwynnol neu'n un dilynol. Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i broffil cleifion sy'n defnyddio gwasanaethau golwg gwan a'r mathau o gyflyrau sydd ganddynt.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data yn seiliedig ar hawliadau a wneir gan bractisau i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am daliad. Mae practisau yn cyflwyno cerdyn cofnod i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae'r data hyn yn cynhyrchu'r taliad o'r system. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu set ddata gyfanredol gyda niferoedd i Lywodraeth Cymru. Mae'r set ddata a ddaeth i law yn cynnwys tri math o asesiadau: asesiadau cleifion newydd, asesiadau cleifion presennol, ac asesiadau dilynol. Yn gyntaf, caiff y rhain eu cyfuno mewn un set ddata. O'r data cyfun hyn, cyfrifir cyfanswm yr asesiadau drwy gyfansymio pob un o'r tri math, gan ddarparu trosolwg o'r holl weithgarwch gwasanaeth golwg gwan. Yna, cyfrifir nifer yr asesiadau cychwynnol drwy gyfuno asesiadau cleifion newydd a phresennol yn unig, sy'n cynrychioli ymweliadau am y tro cyntaf neu ymweliadau sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain. Cedwir asesiadau dilynol ar wahân i adlewyrchu ymweliadau ailadroddus. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu ar gyfer dadansoddi'r nifer cyffredinol a'r gwahanol gamau yng ngofal claf o fewn y gwasanaeth.

Ansawdd ystadegol

Mae'r dadansoddiad o asesiadau yn ôl math cychwynnol neu ddilynol ar gael o 2023-24 ymlaen.

Nid oes data ethnigrwydd ar gael ar gyfer 2014-15

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru