Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu yn ôl nifer y cerbydau
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 29ain Gorffennaf 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Chwarter 1 2026 a ffigyrau diwygiedig ar gyfer Chwarteri 2 a 3 2025
- 4ydd Mehefin 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Chwarter 4 2025 a ffigyrau diwygiedig ar gyfer 2024 a 2025.
- 29ain Ionawr 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Chwarter 3 2025 a ffigyrau diwygiedig ar gyfer Chwarteri 1 a 2 2025
- 30ain Hydref 2025
- 25ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu
- ID y set ddata
- 50ac7e7c-18ae-4bb9-85d7-f395359e0ca3
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer yr damweiniau yn ôl nifer y cerbydau, difrifoldeb y ddamwain, dyddiadau a ardal heddlu
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r heddlu'n crynhoi data ystadegol am ddamweiniau traffig ffordd ac anafiadau/marwolaethau (data Stats19) ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Trafnidiaeth (DfT). Mae hyn yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn damweiniau lle mae unrhyw anaf personol, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd yn rhoi gwybod i'r heddlu'n uniongyrchol am ddamweiniau anaf personol. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru 14 wythnos ar ôl diwedd y chwarter diwethaf. Mae data Stats19 yn gyfres o rifau a llythrennau. Gall un ddamwain anafu/lladd llawer o bobl. Caiff anafiadau/marwolaethau a damweiniau eu hisrannu i gategorïau o bobl a gafodd eu lladd, pobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phobl a gafodd fân anafiadau. Dim ond pobl sy'n marw o fewn llai na 30 diwrnod o ganlyniad i'r ddamwain sy'n cael eu cynnwys yn y bobl a gafodd eu lladd. Nid ydynt yn cynnwys pobl a fu farw o achosion naturiol (e.e. trawiad ar y galon) yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain, ac nid ydynt yn cynnwys hunanladdiadau wedi'u cadarnhau chwaith. Caiff pob damwain ei dosbarthu ar sail y sawl sydd wedi'i anafu waethaf. Er enghraifft, os oes 5 o bobl wedi'u hanfu ond dim ond 1 wedi'i ladd, caiff y ddamwain ei chyfrif fel un angheuol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r ffigurau yn y tabl data hwn yn dangos difrifoldeb anaf fel yr adroddwyd gan y swyddog heddlu a gofnododd y gwrthdrawiad. Nid yw'r difrifoldebau hyn heb eu haddasu yn gyson ar draws gwahanol ddulliau cofnodi a dylid cymryd gofal wrth gymharu nifer yr anafiadau difrifol neu fân anafiadau dros amser neu rhwng ardaloedd heddlu. Mabwysiadodd Heddlu Dyfed-Powys system adrodd well yn seiliedig ar anafiadau ym mis Mai 2023 ac fe wnaeth Heddlu De Cymru ei mabwysiadu ym mis Tachwedd 2025. Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent yn mabwysiadu'r system adrodd yn y dyfodol. Mewn datganiadau yn y dyfodol byddwn yn cyhoeddi ffigurau gan ddefnyddio difrifoldebau wedi'u haddasu. Gellir defnyddio'r ffigurau hyn wedi'u haddasu yn ddibynadwy i gymharu tueddiadau dros amser ledled y wlad. Gan mai dim ond yn ddiweddar y mae Heddlu De Cymru wedi mabwysiadu'r system adrodd newydd, mae'r ffigurau wedi'u haddasu ar hyn o bryd yn rhy gyfnewidiol i fod yn ystyrlon ar lefel y manylder a gyflwynir yn y tabl data hwn. Rydym yn disgrifio'r newidiadau i sut mae difrifoldeb anafiadau yn cael eu cofnodi gan heddluoedd ledled Prydain Fawr yn ein blog gan y Prif Ystadegydd ynghylch deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd. Er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gyda'r hyn y mae'r newid hwn yn ei olygu, rydym wedi cyhoeddi diweddariad pellach gan y Prif Ystadegydd yn ddiweddar yn esbonio'r newidiadau hyn, eu heffeithiau a'r addasiadau sydd eu hangen i ddata difrifoldeb.
Oherwydd maint y set ddata, nid yw'r set ddata hon yn cynnwys gwerthoedd data ar gyfer cyfuniadau o newidynnau heb unrhyw anafusion. Os nad oes gwerth data yn cael ei ddangos ar gyfer y set o nodweddion a ddewiswyd, nid oedd unrhyw anafusion gyda'r nodweddion hynny wedi'u cofnodi.
Gallai'r ffigurau hyn newid os daw newidiadau hwyr. Yn yr un modd, gallai ffigurau'r gorffennol fod yn wahanol i'r rheini a gyhoeddwyd. Mae'r ffigurau'n ymwneud yn unig â damweiniau ar y ffordd y cafodd yr heddlu wybod amdanynt lle cafodd pobl eu hanafu. Daw'r data o ffynonellau gweinyddol, felly gallai newid y gweithdrefnau effeithio ar y ffynonellau hynny. Mae posibilrwydd y ceir peth tan-riportio a than-gofnodi yn ogystal â cham-gategereiddio damweiniau ond cedwir nifer y rheini'n fach gan fod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru'n dilysu data yn aml. Er enghraifft, gall dadansoddwyr data Llywodraeth Cymru holi heddlu am leoliad damwain os gwelir bod cyfeirnod grid damwain mewn awdurdod lleol gwahanol i'r un a nodir ar y ffurflen ddata. Trafodir y materion hyn yn fanylach yn yr Erthygl Ystadegol 'Adroddiad Ansawdd Anafusion Ffyrdd'. Mae'r erthygl yn crynhoi hefyd y ffynonellau a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu ffigurau damweiniau ac anafusion yng Nghymru. Mae'n adolygu ansawdd y ffigurau o safbwynt chwe dimensiwn ansawdd ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd. Yr amcan yw rhoi gwybodaeth gefndir am ystadegau anafusion ffyrdd Cymru mewn un ddogfen ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r ystadegau a gyhoeddir. Fe'i gwelwch ar y ddolen isod: https://www.llyw.cymru/adroddiad-ansawdd-anafusion-ffyrdd
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru