Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: unigolion yng Nghymru mewn gwaith yn ôl gwlad enedigol a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
85 o 85 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwlad geni (tu allan I'r DU)
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oed
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal breswyl (yng Nghymru)
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:22 Gorffennaf 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026

Diweddariad chwarterol

21ain Ionawr 2026

Diweddariad chwarterol

16eg Hydref 2025
9fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am weithwyr ymfudol yng Nghymru o bob rhan o'r byd gyda rhaniad rhwng data sy'n ymwneud â gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd a mannau eraill.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn gofyn i ymatebwyr am eu gwlad enedigol, eu cenedligrwydd a ble roeddent yn byw deuddeg mis yn ôl. Mae'r set ddata hon yn darparu gwybodaeth yn ôl gwlad geni, gan nad yw'n bosibl defnyddio'r data ar symudiadau yn ystod y deuddeg mis diwethaf ar gyfer Cymru gan fod samplau'n rhy isel i ddarparu amcangyfrifon dibynadwy, a gall ymatebion i'r cwestiwn cenedligrwydd fod yn anodd eu dehongli.

Mae'r data gwlad enedigol yn rhoi cyfanswm nifer y bobl a anwyd ym mhob gwlad ac felly nid yw'n rhoi amcangyfrifon uniongyrchol o nifer y mudwyr. Fodd bynnag, mae newidiadau yn y lefelau yn rhoi syniad o lefel y mudo. Gyda'r data hyn mae hefyd yn bwysig sylweddoli y bydd y niferoedd hefyd yn cynnwys pobl Brydeinig a anwyd dramor, er enghraifft, os oedd eu rhieni yn gweithio dramor ar y pryd.

Mae dau brif reswm pam y gall yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth danamcangyfrif nifer y trigolion a anwyd dramor, yn enwedig dros y tymor byr i ganolig. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Mae deunydd samplu yr Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cwmpasu aelwydydd preifat a llety'r GIG yn unig. Mae myfyrwyr mewn neuaddau preswyl hefyd wedi'u cynnwys ond dim ond os oes ganddynt riant sy'n byw ar aelwyd yn y DU. Felly nid yw myfyrwyr mewn neuaddau preswyl heb riant sy'n byw yn y DU yn cael eu cynnwys. Yn ogystal, nid yw pobl sy'n byw mewn mathau eraill o sefydliadau cymunedol fel gwestai, hosteli, tai preswyl, carafanau/cartrefi symudol wedi'u cynnwys. Gall llawer o weithwyr tramor fod yn byw yn y mathau hyn o lety.

  • Mae patrwm pedair blynedd i'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae pob ymatebydd wedi'i gynnwys yn yr arolwg am bedair blynedd yn olynol. O ganlyniad, bydd oedi cyn i grwpiau newydd sy'n cyrraedd y boblogaeth gael eu cynrychioli'n briodol yn y sampl. Mae'r Arolwg o'r Llafurlu a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth hefyd yn cael eu pwysoli i fod yn gynrychioliadol o gyfansymiau'r boblogaeth ym mhob ardal. Fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon poblogaeth hyn yn eithrio'r rhai sy'n ymweld â'r DU am lai na deuddeg mis.

Mae patrwm yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn golygu bod oedi o bedair blynedd cyn i newydd-ddyfodiaid gael eu cynrychioli'n briodol yn y sampl, felly nid dyma'r ffynhonnell orau ar gyfer dangos tueddiadau tymor byr. Fodd bynnag, mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn darparu cyfoeth o wybodaeth arall, megis gweithgarwch economaidd, math o gyflogaeth, oedran, rhyw, ethnigrwydd a chymwysterau. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel y DU. Ar gyfer Cymru, hyd yn oed gyda'r sampl Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth manylach, ychydig iawn o aelwydydd sy’n bodoli lle cafodd pobl eu geni dramor. Mae hyn yn golygu, ar hyn o bryd, na fydd dadansoddiadau manwl ar lefel Cymru yn aml yn bodloni cyfyngiadau ansawdd.

Nomis yw porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwch y gall rhai amcangyfrifon gan Nomis ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth fod ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma oherwydd gwahaniaethau mewn daearyddiaeth awdurdodau lleol.

Ansawdd ystadegol

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.

Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru