Canran y plant 4–5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd mewn categorïau ‘pwysau iach’, yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws Dechrau’n Deg
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

5ed Tachwedd 2025
8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell y data
Rhaglen Mesur Plant (RMP) Cymru

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu data ar blant 4 i 5 oed mewn categorïau 'pwysau iach' sy'n preswylio mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg, ac fe'u cyflwynir fesul awdurdodau lleol.

Rhaglen wyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 yw Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Mae ‘pwysau iach’ yn cynnwys pwysau iach neu o dan bwysau.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cyfrifo neu gasglu data

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad ystadegol hwn yw’r Rhaglen Mesur Plant Cymru a gynhyrchwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Cyn y pandemig COVID-19, cyfunwyd data dwy flynedd academaidd i gynyddu maint y sampl. Tarfodd y pandemig ar y gwaith casglu data hwn gan olygu nad oedd yn bosibl darparu data dwy flynedd wedi’u cyfuno fel yr arfer cyn y pandemig. Felly adolygwyd niferoedd rhanbarthol a phennwyd eu bod yn foddhaol ar gyfer dadansoddiad seiliedig ar flwyddyn unigol.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Mae data ar goll ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 oherwydd y tarfu ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Dim ond dau fwrdd iechyd lleol allai ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 felly mae’r flwyddyn hon wedi’i heithrio. Ni allai bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 oherwydd effaith y pandemig parhaus felly mae’r data a ddangosir yn ymwneud â’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru