Cronfa Cymorth Dewisol yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o daliad
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mis
39 o 39 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026

Diweddariadau

16eg Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
NEC Software Solutions UK
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2023 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn cynnig dau fath o grant. Mae’r Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref y maent yn symud i mewn iddo. Mae’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad, neu deithio mewn achos o argyfwng.

O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf). Ers 2020, mae pobl a ddioddefodd effeithiau’r pandemig neu yn sgil colli’r codiad o £20 i’r Credyd Cynhwysol wedi gallu derbyn 5 taliad. Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd. Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng.

Cyfrifo neu gasglu data

Cesglir y data sy'n ymwneud â'r DAF gan NEC Software Solutions UK o'r systemau gweinyddol a ddefnyddir i brosesu ceisiadau. Cesglir y data hwn a'i rannu â Llywodraeth Cymru bob chwarter.

Mae pob ffigur ynghylch y DAF yn mesur niferoedd yn hytrach na defnyddwyr unigryw, gan fod modd i unigolyn wneud hyd at dri chais llwyddiannus mewn cyfnod o 12 mis.

Ansawdd ystadegol

Mae data DAF yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi fel ystadegyn swyddogol.

Er mwyn sicrhau adrodd amserol ar ffigurau DAF mae’r nifer a gwerth taliadau yma yn cyfeirio at geisiadau wedi’u cymeradwyo, nid ceisiadau wedi’u talu. Mae hyn yn golygu efallai bod gwerth y taliadau yn yr adroddiad yma yn gwahaniaethu i’r symiau terfynol wedi’u talu i dderbynyddion.

Talgrynnu wedi'i wneud

Talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru