Tabl mewnbwn-allbwn (diwydiant yn ôl diwydiant)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 23ain Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022
- ID y set ddata
- 4a3c03bb-11fa-4459-911a-3ab4d58d8dd5
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Beth yw’r tabl mewnbwn-allbwn
Mae’r set ddata hon yn cynnwys tabl mewnbwn-allbwn diwydiant yn ôl diwydiant sy’n dangos llifoedd nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau Cymru, defnyddwyr terfynol, gweddill y DU a gweddill y byd.
Mae’r tabl yn dangos beth mae pob diwydiant yn ei brynu gan ddiwydiannau eraill yng Nghymru, faint sy’n cael ei fewnforio i gynhyrchu allbwn, a sut y defnyddir yr allbwn hwnnw yn y pen draw. Mae hefyd yn dangos y gwerth a ychwanegir gan bob diwydiant yng Nghymru.
At beth y defnyddir y tabl
Gellir defnyddio’r tabl ar gyfer ystod eang o ddadansoddiadau economaidd, gan gynnwys deall sut y gall gweithgareddau un diwydiant effeithio ar ddiwydiannau eraill drwy luosyddion cadwyni cyflenwi ac incwm aelwydydd.
Sut mae’r tabl wedi’i strwythuro
Mae diwydiannau yn ymddangos ar hyd frig y tabl ac i lawr yr ochr chwith.
Mae’r colofnau’n dangos beth sydd ei angen ar bob diwydiant i gynhyrchu ei allbwn, gan gynnwys y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n eu prynu gan ddiwydiannau eraill, yn ogystal â thaliadau i weithwyr a’r llywodraeth (drwy drethi).
Mae’r rhesi’n dangos sut y caiff allbwn pob diwydiant ei ddefnyddio, naill ai gan ddiwydiannau eraill fel mewnbynnau neu gan ddefnyddwyr terfynol (megis aelwydydd a’r llywodraeth), fel ffurfiant cyfalaf, neu ei allforio.
Ar gyfer pob diwydiant, mae cyfanswm y cynnyrch a ddefnyddir yn hafal i gyfanswm yr hyn a gyflenwir unwaith y caiff mewnforion eu cynnwys.
Mynegir pob ffigur mewn prisiau sylfaenol (sy’n eithrio trethi ond yn cynnwys cymorthdaliadau ar gynhyrchion), ar sail blwyddyn galendr, ac mewn miliynau o bunnoedd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Pa ffynonellau data a ddefnyddir
Mae’r tabl mewnbwn-allbwn yn drawsnewidiad algebraidd o’r tablau cyflenwad a defnydd.
Caiff tablau cyflenwad a defnydd Llywodraeth Cymru eu llunio gan ddefnyddio ystod eang o arolygon, setiau data gweinyddol a ffynonellau eraill.
Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dulliau ar gael yn yr adroddiad methodoleg ategol.
Sut mae’r tablau hyn yn cymharu â’r cyhoeddiadau blaenorol
Ni ddylid cymharu’r set ddata hon â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.
- Ansawdd ystadegol
Beth sydd angen i chi ei wybod am ansawdd y data
Dynodir y tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Beth yw’r prif gyfyngiadau o ran ansawdd
- Mae rhai rhannau o'r tabl yn defnyddio patrymau ar lefel y DU lle nad oes data penodol i Gymru ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys strwythurau cynhyrchu ar gyfer diwydiannau nad ydynt yn perthyn i’r sector gweithgynhyrchu.
- Mae rhai amcangyfrfon yn fwy ansicr na'i gilydd, yn enwedig mewnforion, sy'n dibynnu ar dybiaethau symlach am gadwyni cyflenwi.
- Nid yw pob arolwg yn cwmpasu pob rhan o economi Cymru, felly rydym yn defnyddio dulliau dosrannu a ffynonellau data ychwanegol lle bo angen.
O ganlyniad, mae’r tablau ar eu cryfaf pan gânt eu defnyddio i ddadansoddi’r economi a sectorau yn eu cyfanrwydd yn hytrach na thrafodion unigol.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Talgrynnir pob gwerth i 4 lle degol. O ganlyniad, efallai na fydd y cyfansymiau a'r is-gyfansymiau'n adio'n union.
Anogir defnyddwyr sydd angen mwy o fanylder i lawrlwytho’r tablau data mewn fformat OpenDocument Spreadsheet (ODS) o wefan Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru