Pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl dosbarthiad gwledig trefol (diffiniad 2011)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2027
Diweddariadau
- 22ain Hydref 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data 1
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ffynhonnell y data 1
- Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog, Arolwg adnoddau teuluol
- Darparwr data 2
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 2
- Cyfrifiad 2011
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2022 i Mawrth 2025
- ID y set ddata
- 49d1c1f5-4eff-4581-87a6-c94596510d39
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn dangos pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl dosbarthiad gwledig trefol (diffiniad 2011). Mae’r data wedi’i rannu’n grŵp: cartrefi trefol ac gwledig.
Mae'r ffigyrau a ddangosir ar gyfer cyfartaledd newidiol 3 blynedd.
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ar yr holl bobl sy'n byw mewn cartrefi sydd ag incwm aelwyd islaw 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd y DU ar ôl i gostau tai gael eu talu.
Cyflwynir y ffigurau mewn tair ffordd:
- Mae risg yn mesur cyfran y unigolion gyda'r nodwedd benodol mewn tlodi incwm cymharol fel canran o'r holl unigolion gyda'r nodwedd benodol.
- nifer: yn amcangyfrif o sawl bobl â’r nodwedd benodol sydd mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru
- cyfansoddiad: yn mesur cyfran y bobl mewn tlodi incwm cymharol gyda’r nodwedd benodol fel canran o bobl mewn tlodi
- Cyfrifo neu gasglu data
Darparwyd y data gan tim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.
Mae Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn ddosbarthiad ystadegol sy'n darparu dull cyson a safonol ar gyfer categoreiddio ardaloedd daearyddol fel rhai gwledig neu drefol.
Ceir fwy o wybodaeth am y Dosbarthiad Gwledig-Trefol ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).
Mae’r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer un cyfnod yn unig. Yn y dyfodol, bydd dadansoddiadau trefol gwledig yn defnyddio’r diffiniad trefol gwledig 2021.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r FRS sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 1,200 o aelwydydd yn FYE 2025). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru