Eitemau a bresgripsiynir drwy bractisau cyffredinol yn ôl pennod BNF a bwrdd iechyd

Mae’r set ddata hon wedi cael ei harchifo. Gweld y set ddata newydd yn ei lle

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
25 o 25 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
BNF
22 o 22 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

16eg Gorffennaf 2026

Mae’r set ddata hon wedi’i harchifo oherwydd bod data bellach ar gael yn ‘Eitemau presgripsiwn a chost yn ôl bwrdd iechyd, clwstwr, pennod BNF a blwyddyn’. Mae’n bosibl y bydd amrywiadau bach rhwng y ddwy set ddata o ran nifer presgripsiynau yn ôl bwrdd iechyd, gan fod y ciwb hwn yn cynnwys nifer bach o bresgripsiynau na allwn eu mapio’n hyderus i fwrdd iechyd, ond a oedd wedi’u mapio o’r blaen.

6ed Hydref 2025
30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2001 i Mawrth 2026
ID y set ddata
49c297c3-43ab-4708-bf1b-531b32386069

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU.

Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif.

Cost net cynhwysion, wedi'i mesur mewn punnoedd sterling, yw cost sylfaenol yr eitem, cyn unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, ffioedd cyflenwi i fferyllfeydd) neu ostyngiadau (adfachiadau'r GIG).

Defnyddir poblogaeth gofrestredig practisau cyffredinol ar gyfer mesurau poblogaeth, gan fod yr eitemau'n cael eu presgripsiynu i boblogaeth practisau cyffredinol yn hytrach nag i boblogaeth gyffredinol Cymru. Mae'r ddau fesur hyn yn debyg ond mae rhai o drigolion Cymru wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.

Llyfr cyfeirio fferyllol yw Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF), sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor ar bresgripsiynu.

Mae pob eitem a bresgripsiynir yn cael ei chategoreiddio yn ôl pennod yn y Llyfr Fformiwlâu (er enghraifft, y brif system nerfol), adran (er enghraifft, poenliniaryddion), is-baragraff (er enghraifft, poenliniaryddion anopioid a pharatoadau compownd) ac enw cemegol (er enghraifft, paracetamol).

Mae’n bosibl y bydd amrywiadau bach yn nifer y presgripsiynau yn ôl bwrdd iechyd rhwng y set ddata hon ac ‘Eitemau presgripsiwn a chost yn ôl ardal, clwstwr meddygon teulu, pennod BNF a blwyddyn’, gan fod cyfansymiau byrddau iechyd y ciwb hwn yn cynnwys nifer bach o bresgripsiynau na allwn eu mapio’n hyderus i fwrdd iechyd, ond a oedd wedi’u mapio o’r blaen.

Mae nifer yr eitemau a gafodd eu presgripsiynu a’u costau cysylltiedig yn seiliedig ar y flwyddyn ariannol a gofnodwyd, a all mewn nifer dethol o achosion fod yn wahanol i’r flwyddyn a ysgrifennwyd.

O 1 Ebrill 2019 daeth byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf i ben a chawsant eu disodli gan fyrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg.

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru