Perfformiad ynni a bodolaeth peryglon mewn anheddau

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Manylion
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

6ed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Arolwg Cyflwr Tai Cymru
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2017 i Mawrth 2018

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae Arolwg Cyflwr Tai Cymru (ACTC) yn casglu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni cartrefi o bob math yng Nghymru. Dyma'r gyfres gyntaf o ganlyniadau ar gyflwr tai yng Nghymru ers yr arolwg diwethaf yn 2008. Mae'r data allweddol a gesglir yn ACTC, yn cynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni, costau atgyweirio, Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), tlodi tanwydd a'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Am fanylion llawn y pethau sy'n cael eu cynnwys yn yr arolwg, gweler ffurflen yr arolwg, sydd ar gael ar wefan ACTC. Mae data o ACTC yn sail i ddau o'r 46 o Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol Cymru, sef yr anheddau sydd heb beryglon (Dangosydd 31) ac anheddau gyda pherfformiad ynni digonol (Dangosydd 33).

Cyfrifo neu gasglu data

Cynhaliwyd gwaith maes ACTC o fis Awst 2017 i fis Ebrill 2018. Cynhaliwyd archwiliadau o eiddo gan syrfewyr cymwysedig, a gynhaliodd asesiadau gweledol o'r tu mewn a'r tu allan i'r eiddo. Am fanylion llawn y pynciau sy'n cael eu cynnwys yn yr arolwg, gweler ffurflen yr arolwg, sydd ar gael ar wefan ACTC. Tynnwyd sampl o gyfeiriadau o blith aelwydydd cymwys a oedd yn cymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Cyflawnwyd cyfanswm o 2,549 o arolygon llawn ACTC ar draws y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n galluogi amcangyfrifon ar lefel genedlaethol. Fel unrhyw ffigurau sy'n seiliedig ar arolwg, nid ydynt o hyd yn gwbl gywir. Dangosir hyn (“lwfansau ansicrwydd”) ar gyfer pob canlyniad. Mae'r rhain yn rhoi ystod sy'n debygol o gwmpasu'r gwir werth.

Mae canlyniadau ACTC wedi eu pwysoli er mwyn unioni ar gyfer tebygolrwydd dethol anghyfartal a diffyg ymateb gwahaniaethol (hynny yw, i sicrhau bod dosbarthiad tenantiaeth y set ddata derfynol yn cyfateb i boblogaeth Cymru).

Effeithlonrwydd ynni mewn anheddau Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw'r fethodoleg a gaiff ei defnyddio gan y Llywodraeth i asesu a chymharu perfformiad amgylcheddol ac ynni mewn anheddau. Mae SAP yn gweithio drwy asesu faint o ynni y bydd annedd yn ei ddefnyddio wrth ddarparu lefel benodol o gysur a gwasanaethau. Mae'r asesiad yn seiliedig ar ragdybiaethau safonedig mewn perthynas â meddiannaeth ac ymddygiad. Mae hynny'n sicrhau bod perfformiad annedd yn cael ei gymharu ag annedd tebyg. Mae'r sgorau ar raddfa rhwng 1 a 100, lle bo 100 yn cynrychioli dim costau ynni. Defnyddiwyd methodoleg 'SAP 2012' yn Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. (ewch i weld yr Eirfa ar wefan ACTC.) System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai: Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn ddull gwerthuso ar sail risg i helpu awdurdodau lleol nodi a diogelu rhag y risgiau posibl o ran iechyd a diogelwch rhag diffygion a nodwyd mewn anheddau. Caiff ei defnyddio i bennu a yw anheddau preswyl yn ddiogel i fyw ynddynt, neu a yw perygl yn bodoli a allai achosi niwed i iechyd a diogelwch darpar feddiannydd. Mae'r System yn asesu 29 o beryglon sy'n ymwneud â thai ac yn darparu sgôr ar gyfer pob un. Gelwir y rheini sy'n sgorio'n uchel ar y raddfa (ac felly'n achosi'r risg uchaf) yn beryglon Categori 1 - os bydd annedd, yn dilyn archwiliad gan awdurdod lleol, yn cynnwys perygl Categori 1, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i gymryd y camau gorfodi priodol. Gelwir y rheini sy'n is ar y raddfa ac sy'n peri llai o risg yn beryglon Categori 2 - pan fydd y rheini'n digwydd gallai'r awdurdod lleol gymryd camau gorfodi. Ceir manylion llawn am fesur a modelu'r peryglon hyn yn Adroddiad Technolegol ACTC, sydd ar gael ar wefan ACTC.

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru