Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol (asesiadau newydd, asesiadau dilynol ac asesiadau cyn llawdriniaeth) ar gyfer offthalmoleg yn ôl blwyddyn a bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o apwyntiad
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Set Ddata Atgyfeiriad Cleifion Allanol (OPR)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2008 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer offthalmoleg yng Nghymru. Mae'n cynnwys apwyntiadau newydd, apwyntiadau dilynol, ac asesiadau cyn llawdriniaeth, wedi'u dadansoddi yn ôl Bwrdd Iechyd a blwyddyn ariannol. Mae'r set ddata yn cyflwyno sut y mae gweithgarwch cleifion allanol ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid yn amrywio ar draws byrddau iechyd a thros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r set ddata hon yn cyflwyno data gweithgarwch cleifion allanol fesul darparwr Cymreig, sy'n cynnwys gweithgarwch a ddarperir gan sefydliadau Cymreig a data a gyflwynir gan sefydliadau o Loegr ar gyfer cleifion sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu o Gymru. Mae hyn yn wahanol i ddata cleifion allanol ehangach StatsCymru, sy'n cael eu cyflwyno fel gweithgarwch Cymreig—hynny yw, gweithgarwch cleifion allanol sy'n digwydd ar safleoedd ysbytai yng Nghymru. Mae'r data hyn yn cynnwys gweithgarwch a gyflawnir gan sefydliadau Seisnig mewn ysbytai yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys gweithgarwch sy'n digwydd yn Lloegr ar gyfer preswylwyr neu sefydliadau Cymreig. Mae'r data a ddaeth i law yn cynnwys nifer yr apwyntiadau newydd, dilynol a chyn llawdriniaeth yn ôl bwrdd iechyd a blwyddyn. Mae'r rhain hefyd yn cael eu cyfansymio i roi cyfanswm yr apwyntiadau ar gyfer pob ardal a blwyddyn.

Ansawdd ystadegol

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gweler yr adran dolenni gwe am ddatganiadau swyddogol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru