Eitemau a bresgripsiynir gan ymarferwyr gofal sylfaenol eraill

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ragnodwyr
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o Presgripsiynydd
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

2ail Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2023 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau a bresgripsiynir gan ymarferwyr cymwysedig, mewn lleoliad cymunedol yng Nghymru, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU. Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif. Caiff data eu categoreiddio yn ôl y math o bresgripsiynydd. Mae practisau cyffredinol 'arferol' mewn contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) gyda bwrdd iechyd. Mae practisau deintyddol, fferyllfeydd a phractisau optometreg hefyd yn gontractwyr gofal sylfaenol. Mae rhai o'u staff yn gallu presgripsiynu'n annibynnol, heb orfod cyfeirio claf at feddyg teulu neu ysbyty. Nid yw Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlansys Cymru yn gontractwr gofal sylfaenol, ond gall parafeddygon cymwys roi eitemau ar bresgripsiwn sydd wedyn yn cael eu cyflenwi yn y gymuned. Mae'r byrddau iechyd yn rhoi 'cod W' i'r holl leoliadau hyn er mwyn iddynt allu presgripsiynu. Mae nifer o leoliadau eraill hefyd yn cael codau W, sy'n caniatáu i staff cymwysedig roi eitemau ar bresgripsiwn sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnwys gwasanaethau anymataliaeth arbenigol, carchardai, llysoedd, gorsafoedd heddlu a lleoliadau meddygon teulu y tu allan i oriau.

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru