Nifer yr archwiliadau Band 1 a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2 yn ôl y rheswm a ddewiswyd dros bresenoldeb, ac oedran y claf

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [t] = cyfanswm, [x] = ddim ar gael.

Dewisiadau gweld

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data ( o 2 wedi'u dewis2 dewis y mae modd eu dewis)

Oed ( o 7 wedi'u dewis7 dewis y mae modd eu dewis)

Rheswm dros bresenoldeb ( o 4 wedi'u dewis4 dewis y mae modd eu dewis)

Blwyddyn ( o 10 wedi'u dewis10 dewis y mae modd eu dewis)


Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataOedRheswm dros bresenoldebBlwyddyn
0.0CanranHeb ei nodiYn gweld ag un llygad yn unig2023-24
0.0CanranHeb ei nodiYn gweld ag un llygad yn unig2024-25
[x]CanranHeb ei nodiArchwiliadau Band 12023-24
[x]CanranHeb ei nodiArchwiliadau Band 12024-25
Yn dangos 501 i 504 o 504 rhes
Page 6 of 6

Prif wybodaeth

Diweddariad mwyaf diweddar
30 Medi 2025
Disgwylir y diweddariad nesaf
Medi 2026
Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflen Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2015 i Mawrth 2025

Nodiadau data

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer a chanran yr archwiliadau llygaid Band 1 a ddarperir drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 2. Mae WGOS 2 yn darparu gofal llygaid hygyrch yn y gymuned i gleifion sydd â phroblemau llygaid acíwt neu sy'n wynebu risg o ddatblygu clefyd llygaid. Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl y rheswm a ddewiswyd dros bresenoldeb, grŵp oedran y claf, a blwyddyn ariannol. Band 1: gofal llygaid acíwt ac atgyfeiriadau gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Cyn 2023-24, roedd gwasanaethau tebyg yn cael eu darparu o dan gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data yn seiliedig ar hawliadau a wneir gan bractisau i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am daliad. Mae practisau yn cyflwyno ffurflen Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac yna caiff y data hyn eu prosesu ar ei system taliadau K2. Caiff data eu hechdynnu o'r system K2 a'u cyflenwi i Lywodraeth Cymru. Gellir cofnodi mwy nag un rheswm fesul hawliad ac nid yw'r holl resymau dros bresenoldeb wedi'u cynnwys yn y set ddata. Felly, ni fyddai nifer yr archwiliadau Band 1 yn ôl y rheswm dros bresenoldeb yn hafal i nifer cyffredinol yr archwiliadau Band 1. Mae rhesymau eraill dros bresenoldeb (heb eu cynnwys yn y data) yn cynnwys claf sydd â retinitis pigmentosa, claf sy'n wynebu risg o glefyd llygaid oherwydd hanes teuluol, claf sy'n wynebu risg o glefyd llygaid oherwydd cefndir ethnig, neu glaf sydd angen ymchwiliadau i gydymffurfio â phrotocolau/canllawiau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru. Mae'r data wedi'u hidlo i gynnwys archwiliadau Band 1 yn unig. Caiff fflagiau eu creu ar gyfer rhesymau dros bresenoldeb, fel atgyfeiriadau gan feddyg, problemau llygaid acíwt, neu unigolion sydd ond yn gallu gweld drwy un llygad. Caiff y fflagiau hyn wedyn eu cyfansymio i greu cyfansymiau ar gyfer pob rheswm dros bresenoldeb ar draws pob oedran. Yna, cyfrifir canran ar gyfer pob rheswm dros bresenoldeb o fewn pob grŵp oedran, yn seiliedig ar gyfanswm nifer yr archwiliadau Band 1.

Ansawdd ystadegol

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gweler yr adran dolenni gwe am ddatganiadau swyddogol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dewis y set ddata gyfan neu wedi'i hidlo i'w lawrlwytho

Dewis fformat lawrlwytho

Yn cynnwys y set ddata yn unig
Yn cynnwys y set ddata yn unig
Yn cynnwys y set ddata yn unig

Dewis fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd
Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewis iaith