Gwerth meddyginiaethau a roddwyd mewn ysbytai yn ôl cyffur, cemegyn, pennod Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Cyffur
0 o 10450 wedi'u dewis

Yn dangos y 1000 gwerth cyntaf o 10450. Nid yw'r newidyn hwn wedi'i hidlo hyd nes i chi ddewis gwerthoedd.

Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cemegyn
1736 o 1736 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Pennod BNF
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2027

Diweddariadau

16eg Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
System Rheoli Stoc Fferyllfa Ysbytai Cymru (WHPSMS)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2024 i Mawrth 2026
ID y set ddata
4531a3a4-93d4-4d88-b114-e2679a21f4ea

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos gwerth (£) meddyginiaethau roddwyd mewn ysbytai. Dangosir y data yn ôl cyffur (er enghraifft, IVACAFTOR 150 mg Tablets), cemegyn (er enghraifft, Ivacaftor), pennod BNF (er enghraifft Respiratory System) a blwyddyn.

Llyfr cyfeirio fferyllol yw Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF), sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor ar ragnodi. Mae pob eitem a ragnodir yn cael ei chategoreiddio yn ôl ei phennod BNF (er enghraifft, central nervous system). Mae hefyd yn cynnwys rhai meddyginiaethau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y BNF, wedi'u categoreiddio ar wahân.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae data am gost meddyginiaethau a brynir mewn ysbytai yng Nghymru yn ategu data rhagnodi gofal sylfaenol ac yn helpu i roi darlun llawnach o ragnodi yng Nghymru. Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yw'r rhain, gan mai dyma'r tro cyntaf i'r ffynhonnell hon gael ei defnyddio ar gyfer ystadegau swyddogol, ac mae prosesau sicrhau ansawdd wrthi'n cael eu datblygu.

Mae data am feddyginiaethau mewn ysbytai yn dod o systemau rheoli stoc fferyllfeydd ac maent yn mesur cost y meddyginiaethau a brynir gan ysbytai yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys meddyginiaethau a roddwyd i gleifion a meddyginiaethau a gedwid mewn stoc yn ystod y cyfnod cyfeirio. Dim ond costau sy'n cael eu hadrodd, gan y gallai cyhoeddi manylion am miferoedd meddyginiaeth ochr yn ochr â'r costau ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif.

Mae'r data yn dod o'r ffeil gyflenwi, ac mae gwerthoedd yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r pris prynu a gofnodwyd yn fwyaf diweddar ar gyfer pob eitem. Pan fo eitemau wedi'u hanfonebu, bydd y gwerth yn adlewyrchu'r pris anfonebu diweddaraf ac unrhyw ddisgowntiau cysylltiedig. Os nad anfonebwyd am yr eitemau eto, bydd y gwerth yn seiliedig ar y pris prynu a gofnodwyd ddiwethaf. O ganlyniad, mae'n bosibl na fydd y data bob amser yn cynrychioli'r pris gwirioneddol a dalwyd am y cyflenwad penodol, a dylid ei ystyried fel yr amcangyfrif gorau sydd ar gael ar yr adeg adrodd.

Mae'r data yn seiliedig ar y mathau canlynol o gyflenwi. Nid yw categorïau trosglwyddo stoc ac eitemau ar archeb wedi'u cynnwys yn y data hyn.

Categori cyflenwi
Cleifion mewnol
Cleifion allanol
TTA
Clinigau
Cleifion achos dydd
Cleifion dydd mewn ysbyty
Damweiniau ac achosion brys
Cyflenwadau Swmp
Addasiad stoc drwy KADJ a KADJS
Addasiad stoc drwy KADJM
Dychwelwyd i'r cyflenwr
Defnyddio deunyddiau crai mewn presgripsiynau teilwredig
Cyflenwi drwy TRADE
Materion oherwydd newid pris gwerthu MTA
Defnyddio deunyddiau crai drwy UMAN
Cwarantin
Defnyddio deunyddiau crai mewn Asepteg
Credyd ar gyfer dychwelyd stoc
Nwyddau a ddychwelwyd allan
Ansawdd ystadegol

Mae'r data yn gywir ar 25 Mehefin 2026. Mae'n bosibl y gellir cynhyrchu data o hyd ar gyfer meddyginiaethau a roddwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026; Mae hyn yn annhebygol, ond mae'n dal i fod yn bosibl.

Cyhoeddir y data fel y'u derbyniwyd, ac felly adroddir rhai gwerthoedd fel costau negyddol.

Mae'r data ar gael ar lefel cynnyrch yn unig. Ceir y 'Cemegyn' cysylltiedig drwy fapio pob cofnod cyffuriau i'r Moieti Therapiwtig Rhithwir (VTM) cyfatebol, fel y'i diffinnir yng ngeiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau'r GIG (dm+d). Nid oedd modd mapio tua 20% o'r cofnodion i VTM ac felly mae'r 'Cemegyn' wedi'i gofnodi fel 'Anhysbys'. Gall hyn ddigwydd oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Nid yw eitemau wedi'u cynnwys yn y dm+d (er enghraifft cynhyrchion nad ydynt wedi'u dosbarthu'n dechnegol yn gyffuriau neu'n
  • Eitemau sydd wedi'u cynnwys o fewn dm+d ond nad oes ganddynt riant VTM cysylltiedig
Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru