Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 26ain Mehefin 2026
Diweddariad i'r metadata ar ôl diwygiad i'r lwfansau, a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ym Mawrth 2026
- 2ail Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Dim dynodiad
- Darparwr data
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Ffynhonnell y data
- Data Cenedlaethol ar Asesu Risg Llifogydd
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae Asesiad Bygythiad Llifogydd Cymru (FRAW) ynghyd â'r Gronfa Ddata Derbynnydd Genedlaethol 2025 (NRD 2025) yn cael eu defnyddio i benderfynu ar nifer yr eiddo (preswyl a di-breswyl) sydd mewn perygl o lifogydd o Afonydd, y Môr a Dwr Wyneb a Chyrsiau Dwr Bach yng Nghymru. Mae'r wybodaeth ar gyfer risg Heddiw a risg Newid Hinsawdd (2120) ac mae'n cynnwys presenoldeb a diffyg presenoldeb amddiffynfeydd rhag llifogydd o fewn y modelu (senarios gyda amddiffyniad a senarios heb amddiffyniad).
- Cyfrifo neu gasglu data
Nodir y posibilrwydd o lifogydd mewn tri chategori risg:
Risg Uchel; Siawns sy'n fwy na neu'n hafal i 1 o bob 30 (3.3%) mewn unrhyw flwyddyn penodol. Risg Ganolig; Siawns sy'n llai nag 1 o bob 30 (3.3%) ond yn fwy na, neu'n hafal i 1 o bob 100 (1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer afonydd a llifogydd dwr wyneb a llai nag 1 o bob 30 (3.3%) ond yn fwy na neu'n hafal i 1 o bob 200 (0.5%) ar gyfer y môr. Risg Isel; Siawns sy'n llai nag 1 o bob 100 (1%) ar gyfer afonydd a llifogydd dwr wyneb ac 1 o bob 200 (0.5%) ar gyfer y môr ond yn fwy na neu'n hafal i siawns 1 o bob 1,000 (0.1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae FRAW fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd sydd â maint dalgylch sy'n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o'r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Cynrychiolir cyrsiau dwr llai sydd â maint dalgylch llai na 3 cilomedr sgwâr yn y data a mapiau Dwr Wyneb FRAW.
Mae'r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a roddir gan amddiffynfeydd llifogydd ac yn addasu'r categoreiddio risg yn unol â hynny o senario 'heb amddiffyniad'.
Mae'r gwerthoedd cynnydd newid hinsawdd yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru oedd ar gael adeg cwblhau'r prosiect FRAW gwreiddiol yn 2019. Mae'r gwerthoedd cynnydd hyn yn wahanol i'r lwfansau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2026. O ganlyniad, gall nifer yr eiddo amcangyfrifedig newid yn y dyfodol pan fydd y gwerthoedd cynnydd newydd yn cael eu hystyried.
Ar gyfer y senario heb amddiffyniad Newid Hinsawdd, rhagdybiwyd bod y safon bresennol o amddiffyn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cadw i fyny â newid hinsawdd.
- Ansawdd ystadegol
Mae FRAW fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd sydd â maint dalgylch sy'n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o'r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Cynrychiolir cyrsiau dwr llai sydd â maint dalgylch llai na 3 cilomedr sgwâr yn y data a mapiau Dwr Arwyneb FRAW.
Mae'r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a roddir gan amddiffynfeydd llifogydd ac yn addasu'r categoreiddio risg yn unol â hynny o senario 'heb amddiffyniad'.
Efallai y bydd mwy nag un ffynhonnell o lifogydd yn effeithio ar rai eiddo yng Nghymru, felly wrth gyfrif eiddo sydd mewn perygl, mae angen i chi fod yn ofalus nad yw'r un eiddo yn cael ei gyfrif fwy nag unwaith. Er enghraifft, os yw eiddo yn cael ei effeithio gan bob un o'r tair ffynhonnell o lifogydd, wrth adrodd yn ôl ffynonellau llifogydd, bydd yn cael ei gyfrif fel un eiddo ar gyfer afonydd, un ar gyfer y môr ac un ar gyfer dwr wyneb a chwrs dwr bach. Fodd bynnag, os ydych yn cyfrif cyfanswm yr eiddo yng Nghymru sydd mewn perygl o lifogydd, gan ddefnyddio swm y tair ffynhonnell, gellid cyfrif yr un eiddo dair gwaith.
Mae'r cyfrif eiddo a ddarperir yn gipolwg mewn amser yn seiliedig ar setiau data o’r un flwyddyn. Maent yn destun newid o flwyddyn i flwyddyn, wrth i ddata a methodoleg wella dros amser. Gall hyn achosi i gyfrif gynyddu neu leihau rhwng datganiadau unigol. Pan fyddwn yn cyfrif adeiladau neu eiddo, gall hyn gynnwys nifer o adeiladau yn yr un cyfeiriad. Yn 2024 cynhyrchodd Cyfoeth Naturiol Cymru amcanestyniad ar gyfer eiddo mewn perygl ar gyfer 2120 am y tro cyntaf, ac mae hwn wedi’i ddiweddaru eleni. Mae’r amcanestyniad 2120 presennol wedi’i seilio ar ffigyrau 2025. Mae ffigyrau 2024 a 2025 yn cynnwys cyfrif eiddo sy'n cynrychioli senario wedi'i amddiffyn yn 2120 (h.y. mewn tua 100 mlynedd). Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr un rhagdybiaeth sylfaenol y bydd y safon bresennol o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol ond maent wedi'u cyfrifo mewn dwy ffordd ychydig yn wahanol:
- Ar gyfer cyfrif eiddo 2024, gosodwyd safon amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol (2120) ar 80% o'r safon presennol. Roedd hyn yn golygu bod gostyngiad yn safon yr amddiffyn sy'n golygu bod rhai eiddo yn symud i fandiau risg uwch.
- Ar gyfer cyfrif eiddo 2025, mae'r cyfrifiad wedi'i berfformio'n wahanol. Ni fu gostyngiad yn y safon amddiffyn ac mae'r lefel bresennol yn cael ei chynnal yn y dyfodol (h.y. amddiffyn rhag llifogydd sy'n darparu safon amddiffyn 100 mlynedd o heddiw yn darparu'r un safon amddiffyn 100 mlynedd yn 2120).
Mae gwahaniaethau rhwng cyfrif eiddo 2024 a 2025 yn dangos pa mor agored yw'r ffigurau i newid gyda dim ond ychydig o newid i'r ymagwedd sy'n sail i'r ansicrwydd wrth wneud rhagfynegiadau yn y dyfodol.
Dim ond un canlyniad posibl yw'r rhagdybiaeth y bydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu cynnal i'r un lefel o amddiffyniad. Gallai'r risg a neilltuwyd i eiddo mewn ardaloedd wedi eu hamddiffyn newid yn fawr yn y dyfodol yn dibynnu ar lefelau buddsoddi a cynnal a chadw. Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth. Cyfoeth Naturiol Cymru / Gofynion Buddsoddi Hirdymor ar gyfer Amddiffynfeydd rhag Llifogydd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru