Plant sy’n gymwys, wedi cael cynnig, ac sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 23ain Medi 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata’r flwyddyn flaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r]. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.
- 14eg Medi 2026
Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data.
- 8fed Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Ffurflenni monitro data Dechrau’n Deg
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2012 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 433b2676-efcb-4ddc-be0d-e6029cab0a92
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg, a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n cynnig cymorth i deuluoedd â phlant pedair oed ac iau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gyda'r nod o wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd.
Mae’r rhaglen yn darparu pecyn o gymorth sy'n cynnwys gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Cafodd Dechrau’n Deg ei lansio yn 2006, a cafodd pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ei ehangu i fwy o deuluoedd ym mis Medi 2022.
Yn 2025 i 2026, cafodd rhieni i blant 2 i 3 oed sy’n gymwys am bob un o 4 elfen Dechrau’n Deg gynnig gofal plant o ansawdd uchel am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Ar ben hyn, caiff o leiaf 15 sesiwn eu darparu ar gyfer y teulu yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.
- Cyfrifo neu gasglu data
Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013. Gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fonitro cynnydd.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a adroddiad ansawdd.
- Ansawdd ystadegol
Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:
- roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
- roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
- dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
- byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
- mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.
Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws.
Mae 'manteisio ar' yn cyfeirio at a yw'r cynnig o ofal plant yn cael ei dderbyn ni waeth pa un a yw'r plentyn yn mynychu gofal plant wedi hynny, er bod rhai awdurdodau lleol wedi darparu ffigurau derbyn seiliedig ar bresenoldeb yn 2024-25.
Yn Abertawe yn 2024-25, roedd nifer y plant a fanteisiodd ar gynigion gofal plant llawn neu lai yn fwy na chyfanswm nifer y plant y cynigiwyd ofal plant iddynt, gan arwain at ganran fwy na 100% sydd wedi'i haddasu i 100%. Y rheswm am hyn yw mai dim ond cynigion gofal plant i blant 2 oed sydd newydd ddod yn gymwys yn y cyfnod a gyfrifir, lle gallai nifer y plant sy'n manteisio ar ofal plant gynnwys plant sydd wedi troi'n 2 oed cyn y cyfnod adrodd blaenorol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru