Nifer a chanran y plant sy’n gymwys, wedi cael cynnig, ac sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni monitro data Dechrau’n Deg
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Roedd Cam 2 y rhaglen ehangu yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, a dechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Cyfrifo neu gasglu data

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013. Gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fonitro cynnydd.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
  • roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws.

Mae 'manteisio ar' yn cyfeirio at a yw'r cynnig o ofal plant yn cael ei dderbyn ni waeth pa un a yw'r plentyn yn mynychu gofal plant wedi hynny, er bod rhai awdurdodau lleol wedi darparu ffigurau derbyn seiliedig ar bresenoldeb yn 2024-25.

Yn Abertawe yn 2024-25, roedd nifer y plant a fanteisiodd ar gynigion gofal plant llawn neu lai yn fwy na chyfanswm nifer y plant y cynigiwyd ofal plant iddynt, gan arwain at ganran fwy na 100% sydd wedi'i haddasu i 100%. Y rheswm am hyn yw mai dim ond cynigion gofal plant i blant 2 oed sydd newydd ddod yn gymwys yn y cyfnod a gyfrifir, lle gallai nifer y plant sy'n manteisio ar ofal plant gynnwys plant sydd wedi troi'n 2 oed cyn y cyfnod adrodd blaenorol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru