Nifer a chanran y plant sy’n gymwys, wedi cael cynnig, ac sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
Awdurdod lleolWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 23 gwerthNewid gwerthoedd
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 13 gwerthNewid gwerthoedd
DangosyddWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 3 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [t] = cyfanswm, [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataAwdurdod lleolBlwyddynDangosydd
0 [t] [z]Nifer Cymru2012-13Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
0 [t] [z]Nifer Cymru2012-13Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
4,641 [t]Nifer Cymru2012-13Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
8,511 [t]Nifer Cymru2013-14Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
7,534 [t]Nifer Cymru2013-14Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
6,445 [t]Nifer Cymru2013-14Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,393 [t]Nifer Cymru2014-15Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
9,102 [t]Nifer Cymru2014-15Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,626 [t]Nifer Cymru2014-15Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,274 [t]Nifer Cymru2015-16Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
9,032 [t]Nifer Cymru2015-16Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,772 [t]Nifer Cymru2015-16Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,253 [t]Nifer Cymru2016-17Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
8,928 [t]Nifer Cymru2016-17Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,898 [t]Nifer Cymru2016-17Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,479 [t]Nifer Cymru2017-18Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
9,098 [t]Nifer Cymru2017-18Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,940 [t]Nifer Cymru2017-18Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,132 [t]Nifer Cymru2018-19Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
8,937 [t]Nifer Cymru2018-19Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,823 [t]Nifer Cymru2018-19Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
9,063 [t]Nifer Cymru2019-20Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
8,961 [t]Nifer Cymru2019-20Plant sydd newydd ddod yn gymwys ac sydd wedi cael cynnig gofal plant
7,693 [t]Nifer Cymru2019-20Plant sy’n manteisio ar gofal plant llawn neu lai
8,607 [t]Nifer Cymru2020-21Plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael gofal plant
Yn dangos 1 i 25 o 1,495 rhes
Page 1 of 60

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni monitro data Dechrau’n Deg
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Roedd Cam 2 y rhaglen ehangu yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, a dechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Cyfrifo neu gasglu data

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013. Gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fonitro cynnydd.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
  • roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws.

Mae 'manteisio ar' yn cyfeirio at a yw'r cynnig o ofal plant yn cael ei dderbyn ni waeth pa un a yw'r plentyn yn mynychu gofal plant wedi hynny, er bod rhai awdurdodau lleol wedi darparu ffigurau derbyn seiliedig ar bresenoldeb yn 2024-25.

Yn Abertawe yn 2024-25, roedd nifer y plant a fanteisiodd ar gynigion gofal plant llawn neu lai yn fwy na chyfanswm nifer y plant y cynigiwyd ofal plant iddynt, gan arwain at ganran fwy na 100% sydd wedi'i haddasu i 100%. Y rheswm am hyn yw mai dim ond cynigion gofal plant i blant 2 oed sydd newydd ddod yn gymwys yn y cyfnod a gyfrifir, lle gallai nifer y plant sy'n manteisio ar ofal plant gynnwys plant sydd wedi troi'n 2 oed cyn y cyfnod adrodd blaenorol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru