Tanau yn ôl categori, mis, math o leoliad, cymhelliad, ardal Awdurdod Tân ac Achub a blwyddyn ariannol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 28ain Ebrill 2026
Diweddarwyd ffynonellau’r data i adlewyrchu darparwr newydd
- 16eg Ebrill 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Swyddfa Gartref
- Ffynhonnell y data 1
- System cofnodi achosion o dân
- Darparwr data 2
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data 2
- Platfform Data Tân ac Achub
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2001 i Mawrth 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y prif danau, tanau eilaidd a thanau simnai yn ôl mis, cymhelliad, ardal Awdurdod Tân ac Achub, math o leoliad a blwyddyn ariannol. Mae'r mathau o leoliad ar gyfer prif danau yn cynnwys anheddau, adeiladau eraill, cerbydau ffordd a lleoliadau awyr agored eraill. Nid yw'r math o leoliad wedi'i gynnwys yn y set ddata hon ar gyfer tanau eilaidd a thanau simnai.
- Cyfrifo neu gasglu data
Gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol 2025-26, mae data wedi'u hechdynnu o'r Platfform Data Tân ac Achub (FaRDaP) a weinyddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Rhwng 2009-10 a 2024-25, echdynnwyd data o'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS). Cyn 2009-10, casglwyd data gan ddefnyddio ffurflen FDR (Adroddiad Data Tân).
- Ansawdd ystadegol
Mae FaRDaP (a'r IRS o'i flaen) yn system fyw ac felly mae’n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i'r ffigurau yn y tabl hwn. Adolygir y data bob blwyddyn, ac mae'r data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf wedi’u farcio fel dros dro.
Gall yr ystadegau ar gyfer blynyddoedd cyn 2009-10 fod yn llai cadarn oherwydd y gwelliannau o ran casglu data yn sgil cyflwyno'r IRS. Er enghraifft, tybiwyd bod pob tân simnai yn ddamweiniol cyn 2009-10, gan nad oedd data'n cael eu casglu am danau simnai bwriadol cyn yr IRS.
Nid oes cyfansymiau misol ar gael ar gyfer tanau eilaidd damweiniol a bwriadol ar gyfer 2008-09.
Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru