Oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn ôl dosbarthiad gwledig trefol (diffiniad 2011)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Cyfnod amser
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dosbarthiad gwledig trefol (diffiniad 2011)
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2027

Diweddariadau

22ain Hydref 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data 1
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data 1
Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog, Arolwg adnoddau teuluol
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Cyfrifiad 2011
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2022 i Mawrth 2025
ID y set ddata
4022c9df-40cb-4704-bd76-a0cf3b9bdfb4

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn dangos pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl dosbarthiad gwledig trefol (diffiniad 2011). Mae’r data wedi’i rannu’n grŵp: cartrefi trefol ac gwledig.

Mae'r ffigyrau a ddangosir ar gyfer cyfartaledd newidiol 3 blynedd.

Mae’r data yn seiliedig ar ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata a ddarparwyd gan dim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Cyflwynir y ffigurau mewn tair ffordd:

  • Mae risg yn mesur cyfran y oedolion oedran gweithio gyda'r nodwedd benodol mewn tlodi incwm cymharol fel canran o'r holl oedolion oedran gweithio gyda'r nodwedd benodol
  • nifer: yn amcangyfrif o sawl oedolion oedran gweithio â’r nodwedd benodol sydd mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru
  • cyfansoddiad: yn mesur cyfran y oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol gyda’r nodwedd benodol fel canran o oedolion oedran gweithio mewn tlodi
Cyfrifo neu gasglu data

Darparwyd y data gan tim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mae Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn ddosbarthiad ystadegol sy'n darparu dull cyson a safonol ar gyfer categoreiddio ardaloedd daearyddol fel rhai gwledig neu drefol.

Ceir fwy o wybodaeth am y Dosbarthiad Gwledig-Trefol ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).

Mae’r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer un cyfnod yn unig. Yn y dyfodol, bydd dadansoddiadau trefol gwledig yn defnyddio’r diffiniad trefol gwledig 2021.

Ansawdd ystadegol

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r FRS sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 1,200 o aelwydydd yn FYE 2025). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru