Crynodeb o ystadegau allweddol ar gyfer Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn ôl bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mesur
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

3ydd Chwefror 2026

O Chwefror 2026 mae peth o’r data sy'n ymwneud â Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru wedi'u diwygio. Darparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata ôl-weithredol ychwanegol ar gyfer 2023-24 a 2024-25 ar ganlyniadau sgrinio ar gyfer cyfranogwyr adalw risg isel gan mai dim ond yn ddiweddar y daeth y canlyniadau hyn ar gael. Mae'r data a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 30 Medi 2025 wedi'u diweddaru i gynnwys y data diwygiedig hyn, gan arwain at newidiadau mawr yn nifer y canlyniadau a adroddwyd ac yn nifer y cleifion heb retinopathi. Gweler adroddiad ystadegol 2024-25 i gael rhagor o wybodaeth.

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2014 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu crynodeb o ystadegau allweddol o raglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a blwyddyn ariannol, ac maent yn cynnwys mesurau fel cwmpas y cleifion, gweithgarwch, a chanlyniadau sgrinio. Mae'r set ddata yn rhoi trosolwg o sut y caiff gwasanaethau sgrinio llygaid diabetig eu darparu ledled Cymru a sut y mae gweithgarwch a chanlyniadau yn amrywio rhwng rhanbarthau a thros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae niferoedd cyfanredol y cleifion yn deillio o gofnodion cleifion ac fe'u defnyddir fel gwybodaeth i reoli rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru ac maent wedi'u defnyddio ar gyfer y datganiad ystadegol hwn. Nid oes unrhyw ddata sy'n ymwneud â chleifion unigol wedi'u trosglwyddo yn ystod y broses hon. Pan fydd claf yn cael diagnosis o ddiabetes gan feddyg teulu, bydd atgyfeiriad yn cael ei anfon i raglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru a bydd y claf yn cael ei gofrestru a'i wahodd i gael ei sgrinio. Cynhelir y prawf sgrinio mewn uned symudol neu ar safleoedd gofal iechyd. Mae gwybodaeth am y claf, gan gynnwys delweddau retinaidd, yn cael ei storio ar gronfa ddata rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Mae rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn dilysu'r gronfa ddata yn fisol yn erbyn Gwasanaeth Demograffig Cymru i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â phreswylwyr byw Cymru. Mae cyfansymiau hefyd yn cael eu dilysu'n rheolaidd yn erbyn cofrestrau clefyd diabetes meddygon teulu. Mae'r gwahanol ganlyniadau yn y set ddata yn cael eu pennu gan y cod 'gradd waethaf' a neilltuir ym mhob prawf sgrinio llygaid diabetig. Mae'r cod hwn yn nodi graddfa'r retinopathi. Mae'r holl brofion sgrinio, gan gynnwys y rhai sydd â chanlyniadau heb eu hadrodd, yn cael eu cyfrif i gynhyrchu cyfanswm y 'canlyniadau a adroddwyd'. Mae'r data hyn wedyn yn cael eu cyfuno â ffigurau ar gyfer cleifion cymwys, cofrestriadau newydd, ac apwyntiadau wedi'u trefnu - sydd i gyd yn cael eu darparu ar lefel y bwrdd iechyd - i gynhyrchu'r set ddata derfynol. Pan fydd claf yn cael diagnosis o ddiabetes gan feddyg teulu bydd atgyfeiriad yn cael ei anfon at DESW a bydd y claf yn cael ei gofrestru a’i wahodd i gael ei sgrinio. Bydd y sgrinio’n digwydd mewn uned symudol neu ystafelloedd gofal iechyd. Mae gwybodaeth am y claf, gan gynnwys delweddau retinaidd, yn cael eu storio ar gronfa ddata DESW.

Mae DESW yn dilysu’r gronfa ddata’n fisol yn erbyn Gwasanaeth Demograffig Cymru i sicrhau ei fod wedi’i alinio â phreswylwyr byw Cymru. Mae’r niferoedd hefyd yn cael eu dilysu’n rheolaidd yn erbyn cofrestrau diabetes meddygon teulu.

Noder: mae darnau bach o ddata ar goll o fewn rhai meysydd o ystadegau DESW. Mae canrannau’n cael eu cyfrifo mewn cofnodion â gwerthoedd datganedig. Nid oedd modd graddio canlyniadau faint o gleifion sy’n cael eu sgrinio bob blwyddyn (rhwng 2,000 a 3,000 fel arfer).

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Ansawdd ystadegol

Am rai blynyddoedd, roedd pob prawf sgrinio â retinopathi/maciwlopathi difrifol yn cael ei atgyfeirio ar frys i wasanaethau llygaid mewn ysbyty ac felly mae'r niferoedd ar gyfer y ddau gategori yr un fath. Mae 'atgyfeiriad brys i offthalmoleg ar gyfer briwiau eraill' yn wahanol ac yn digwydd pan fydd y graddiwr yn sylwi ar faes pryder nad yw'n gysylltiedig â diabetes. Noder bod darnau bach o ddata ar goll o fewn rhai meysydd o ystadegau rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Caiff canrannau eu cyfrifo mewn cofnodion â gwerthoedd datganedig. Mae'r cyfanswm 'canlyniadau a adroddwyd' yn cynrychioli nifer y profion sgrinio a gynhelir bob blwyddyn. Mae'r cyfanswm hwn yn cynnwys canlyniadau nad oedd modd eu graddio (fel arfer rhwng 2,000 a 3,000), a gall gyfrif rhai cleifion fwy nag unwaith pe baent wedi cael eu sgrinio sawl gwaith o fewn yr un flwyddyn.

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gweler yr adran dolenni gwe am ddatganiadau swyddogol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru