Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
13eg Ebrill 2026
Wedi'i ddiweddaru i gynnwys y data 2026-27.
19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
Dynodiad
Dim dynodiad
Darparwr data 1
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Awdurdodau Lleol
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2004 i Mawrth 2027
Trosolwg
Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Bwriad y casgliad hwn o dablau a gwybodaeth yw rhoi’r cefndir cyffredinol ar gyfer cyfrifo’r asesiadau o wariant safonol (SSA). Mae’r tablau hyn yn dangos swm yr SSA a ddosberthir ar sail pob dangosydd.
Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma wedi’i seilio ar ddata a gesglir drwy ddatganiadau blynyddol Awdurdodau Lleol Cymru a ffynonellau swyddogol eraill.
Mae’r SSA blynyddol yn cael ei ddosbarthu ar draws Awdurdodau Lleol yn unol â model y Setliad Llywodraeth Leol.
Ansawdd ystadegol
Mae’r data sylfaenol yn cael eu casglu’n uniongyrchol oddi wrth yr Awdurdodau Lleol neu ffynonellau data swyddogol. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddilysu data a ddefnyddir wrth gyfrifo. Mae adroddiad ansawdd ystadegol sy’n berthnasol i’r holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol i’w weld ar y dudalen ganlynol:
https://www.llyw.cymru/ystadegau-cyllid-llywodraeth-leol-adroddiad-ansawdd