Lluosyddion economaidd dangosol (tablau mewnbwn-allbwn)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sector
55 o 55 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o luosydd neu effaith
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

15fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Arolwg o'r Llafurlu (LFS)
Darparwr data 4
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 4
Arolwg Amaethyddol Mis Mehefin
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2019 i Rhagfyr 2019

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn cynnwys lluosyddion ac effeithiau cynnyrch economaidd, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), a chyflogaeth i gyd-fynd â'r tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru.

Gellir defnyddio lluosyddion ac effeithiau i amcangyfrif effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol newid i allbwn diwydiant gan ddefnyddio ystod o fesuriadau economaidd (ac aneconomaidd).

Mae'r set ddata hon yn cynnwys lluosyddion Math I a Math II ar gyfer cynnyrch economaidd, GVA a chyflogaeth. Mae'r ddau fath yn mesur effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol, tra bod lluosyddion Math II hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr effeithiau a ysgogwyd gan newid i incwm cyflogaeth. Mae esboniad pellach o’r cysyniadau hyn ar gael yn yr erthygl ystadegol ategol.

Efallai y bydd y ffigurau cynnyrch economaidd, GVA a chyflogaeth a gyflwynir yn y tabl o ddefnydd i ddefnyddwyr sydd â diddordeb mewn deillio matrics Leontief eu hunain. Mae'r ffigyrau cyflogaeth yn arbennig o bwysig, gan na ellir deillio’r ffigurau rhain o'r tabl mewnbwn-allbwn ar ei ben ei hun. Ni ellir chwaith amcangyfrif cyfanswm y gweithlu cyflogedig ar gyfer y sectorau mewnbwn-allbwn yn uniongyrchol o ffynonellau data sydd wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol na Llywodraeth Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r lluosyddion a'r effeithiau a gyflwynir yn y set ddata hon yn deillio o'r tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Mae methodoleg amlinellol sy'n disgrifio sut y lluniwyd y tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r dull o gynhyrchu lluosyddion ac effeithiau cynnyrch economaidd, GVA, a chyflogaeth yn dilyn yn fras y dull a amlinellir yn Miller and Blair (2019) (Gwasg Prifysgol Caergrawnt).

Un manylyn pwysig yn y fethodoleg Math II yw’r ffordd y caiff cyfernodau gwariant aelwydydd eu cyfrifo. Yn hytrach na rhannu gwariant treuliant aelwydydd â chyfanswm y golofn, rydym yn ei rannu â chyfanswm incwm aelwydydd o bob ffynhonnell. Yn 2019, £77,606 miliwn oedd yr enwadur a ddefnyddiwyd, sef swm adnoddau cynradd ac eilradd o gyhoeddiad Incwm Aelwydydd Gros i’w Wario y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn gyson â'r dull a ddefnyddir gan Lywodraeth yr Alban.

Mae'r dull hwn yn adlewyrchu'r ffaith nad yw holl dreuliant aelwydydd yn cael ei ariannu gan incwm a enillwyd. Mae cyfran sylweddol yn cael ei ariannu trwy incwm na enillwyd, megis pensiynau, difidendau, a throsglwyddiadau eraill. Byddai cynnwys y ffynonellau hyn yn y ddolen adborth yn chwyddo effaith incwm a enillwyd mewn modd artiffisial wrth ysgogi rhagor o wariant gan aelwydydd.

Dim ond ar gyfer dadansoddiadau mewnbwn-allbwn y dylid defnyddio'r amcangyfrifon cyflogaeth cyfwerth ag amser llawn (FTE) a gyflwynir yn y set ddata hon. Mae amcangyfrifon o nifer y gweithwyr cyflogedig yn deillio o Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES). Ategir y rhain gan ddata NOMIS ar hunangyflogaeth a swyddi Lluoedd EF yng Nghymru. Cymerir amcangyfrifon cyflogaeth ym maes amaeth yn uniongyrchol o Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol Llywodraeth Cymru. Defnyddir pwysyn syml o 0.5 ar gyfer gweithwyr rhan-amser i ddeillio amcangyfrifon cyfwerth ag amser llawn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y fethodoleg yn yr erthygl ystadegol ategol.

Ansawdd ystadegol

Mae dadansoddiadau mewnbwn-allbwn gan ddefnyddio lluosyddion yn enghraifft o fodelu ecwilibriwm rhannol. Ni chaiff newidiadau i strwythur yr economi ar yr ochr gyflenwi eu modelu. Mae gan hyn nifer o oblygiadau pwysig y dylid eu hystyried wrth ddehongli’r data.

Mae’n bwysig nodi y bydd y lluosyddion a gyflwynir yma yn tueddu i or-ddweud yr effeithiau anuniongyrchol, ond ni fydd maint y gor-ddweud yn hysbys. Mae dadansoddi gan ddefnyddio lluosyddion a’r tablau mewnbwn-allbwn yn gweithio orau pan fo maint yr effeithiau'n gymharol fach o’i gymharu â maint y diwydiannau perthnasol (a’u gweithluoedd) ar yr ochr gyflenwi.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd y data, methodoleg, a chyngor ar ddefnydd priodol o’r data yn yr erthygl ystadegol ategol. Anogir yn gryf i ddefnyddwyr adolygu’r ddogfen hon cyn gwneud unrhyw ddadansoddiadau gan ddefnyddio'r data.

Mae'r lluosyddion a'r effeithiau wedi eu seilio ar y tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad, mae rhai agweddau o’r broses o greu’r tablau lle mae'r data yn llai cadarn. Caiff y cyfyngiadau hyn eu hamlygu yn y fethodoleg amlinellol sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru