Lluosyddion economaidd dangosol (tablau mewnbwn-allbwn)

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Sector
55 o 55 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o luosydd neu effaith
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 8 gwerthNewid gwerthoedd
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tabl2019Ni ellir newid y gwerth
SectorWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 55 gwerthNewid gwerthoedd
Math o luosydd neu effaithWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataBlwyddynSectorMath o luosydd neu effaith
1.31Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A01: Cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid, hela a gweithgareddau gwasanaeth cysylltiedigMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.37Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A01: Cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid, hela a gweithgareddau gwasanaeth cysylltiedigMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.27Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A02: Coedwigaeth a thorri a thrin coedMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.36Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A02: Coedwigaeth a thorri a thrin coedMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.18Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A03: Pysgota a dyframaethuMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.27Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019A03: Pysgota a dyframaethuMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.36Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019B: Cloddio a chwarelaMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.45Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019B: Cloddio a chwarelaMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.29Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C10-12: Gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd, diodydd a chynhyrchion tybacoMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.38Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C10-12: Gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd, diodydd a chynhyrchion tybacoMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.16Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C13-15: Gweithgynhyrchu tecstilau, dillad i'w gwisgo a chynhyrchion lledrMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.25Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C13-15: Gweithgynhyrchu tecstilau, dillad i'w gwisgo a chynhyrchion lledrMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.26Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C16: Gweithgynhyrchu pren a chynyrchion pren a chorc, heblaw am ddodrefn; gweithgynhyrchu eitemau o wellt a deunyddiau plethuMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.35Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C16: Gweithgynhyrchu pren a chynyrchion pren a chorc, heblaw am ddodrefn; gweithgynhyrchu eitemau o wellt a deunyddiau plethuMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.38Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C17: Gweithgynhyrchu papur a chynhyrchion papurMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.48Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C17: Gweithgynhyrchu papur a chynhyrchion papurMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.26Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C18: Argraffu ac atgynhyrchu cyfryngau wedi'u recordioMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.42Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C18: Argraffu ac atgynhyrchu cyfryngau wedi'u recordioMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.10Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C19-20: Gweithgynhyrchu cynhyrchion cemegol, golosg, a phetroliwm puredigMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.13Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C19-20: Gweithgynhyrchu cynhyrchion cemegol, golosg, a phetroliwm puredigMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.19Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C21: Gweithgynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol a pharatoadau fferyllolMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.26Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C21: Gweithgynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol a pharatoadau fferyllolMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.21Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C22: Gweithgynhyrchu cynhyrchion rwber a phlastigMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
1.35Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C22: Gweithgynhyrchu cynhyrchion rwber a phlastigMath II (effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac effeithiau a ysgogwyd)
1.19Lluosydd (Cynnyrch economaidd)2019C23: Gweithgynhyrchu cynhyrchion mwynol anfetelig eraillMath I (effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol)
Yn dangos 1 i 25 o 880 rhes
Page 1 of 36

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

15fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Arolwg o'r Llafurlu (LFS)
Darparwr data 4
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 4
Arolwg Amaethyddol Mis Mehefin
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2019 i Rhagfyr 2019

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn cynnwys lluosyddion ac effeithiau cynnyrch economaidd, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), a chyflogaeth i gyd-fynd â'r tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru.

Gellir defnyddio lluosyddion ac effeithiau i amcangyfrif effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol newid i allbwn diwydiant gan ddefnyddio ystod o fesuriadau economaidd (ac aneconomaidd).

Mae'r set ddata hon yn cynnwys lluosyddion Math I a Math II ar gyfer cynnyrch economaidd, GVA a chyflogaeth. Mae'r ddau fath yn mesur effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol, tra bod lluosyddion Math II hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr effeithiau a ysgogwyd gan newid i incwm cyflogaeth. Mae esboniad pellach o’r cysyniadau hyn ar gael yn yr erthygl ystadegol ategol.

Efallai y bydd y ffigurau cynnyrch economaidd, GVA a chyflogaeth a gyflwynir yn y tabl o ddefnydd i ddefnyddwyr sydd â diddordeb mewn deillio matrics Leontief eu hunain. Mae'r ffigyrau cyflogaeth yn arbennig o bwysig, gan na ellir deillio’r ffigurau rhain o'r tabl mewnbwn-allbwn ar ei ben ei hun. Ni ellir chwaith amcangyfrif cyfanswm y gweithlu cyflogedig ar gyfer y sectorau mewnbwn-allbwn yn uniongyrchol o ffynonellau data sydd wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol na Llywodraeth Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r lluosyddion a'r effeithiau a gyflwynir yn y set ddata hon yn deillio o'r tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Mae methodoleg amlinellol sy'n disgrifio sut y lluniwyd y tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r dull o gynhyrchu lluosyddion ac effeithiau cynnyrch economaidd, GVA, a chyflogaeth yn dilyn yn fras y dull a amlinellir yn Miller and Blair (2019) (Gwasg Prifysgol Caergrawnt).

Un manylyn pwysig yn y fethodoleg Math II yw’r ffordd y caiff cyfernodau gwariant aelwydydd eu cyfrifo. Yn hytrach na rhannu gwariant treuliant aelwydydd â chyfanswm y golofn, rydym yn ei rannu â chyfanswm incwm aelwydydd o bob ffynhonnell. Yn 2019, £77,606 miliwn oedd yr enwadur a ddefnyddiwyd, sef swm adnoddau cynradd ac eilradd o gyhoeddiad Incwm Aelwydydd Gros i’w Wario y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn gyson â'r dull a ddefnyddir gan Lywodraeth yr Alban.

Mae'r dull hwn yn adlewyrchu'r ffaith nad yw holl dreuliant aelwydydd yn cael ei ariannu gan incwm a enillwyd. Mae cyfran sylweddol yn cael ei ariannu trwy incwm na enillwyd, megis pensiynau, difidendau, a throsglwyddiadau eraill. Byddai cynnwys y ffynonellau hyn yn y ddolen adborth yn chwyddo effaith incwm a enillwyd mewn modd artiffisial wrth ysgogi rhagor o wariant gan aelwydydd.

Dim ond ar gyfer dadansoddiadau mewnbwn-allbwn y dylid defnyddio'r amcangyfrifon cyflogaeth cyfwerth ag amser llawn (FTE) a gyflwynir yn y set ddata hon. Mae amcangyfrifon o nifer y gweithwyr cyflogedig yn deillio o Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES). Ategir y rhain gan ddata NOMIS ar hunangyflogaeth a swyddi Lluoedd EF yng Nghymru. Cymerir amcangyfrifon cyflogaeth ym maes amaeth yn uniongyrchol o Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol Llywodraeth Cymru. Defnyddir pwysyn syml o 0.5 ar gyfer gweithwyr rhan-amser i ddeillio amcangyfrifon cyfwerth ag amser llawn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y fethodoleg yn yr erthygl ystadegol ategol.

Ansawdd ystadegol

Mae dadansoddiadau mewnbwn-allbwn gan ddefnyddio lluosyddion yn enghraifft o fodelu ecwilibriwm rhannol. Ni chaiff newidiadau i strwythur yr economi ar yr ochr gyflenwi eu modelu. Mae gan hyn nifer o oblygiadau pwysig y dylid eu hystyried wrth ddehongli’r data.

Mae’n bwysig nodi y bydd y lluosyddion a gyflwynir yma yn tueddu i or-ddweud yr effeithiau anuniongyrchol, ond ni fydd maint y gor-ddweud yn hysbys. Mae dadansoddi gan ddefnyddio lluosyddion a’r tablau mewnbwn-allbwn yn gweithio orau pan fo maint yr effeithiau'n gymharol fach o’i gymharu â maint y diwydiannau perthnasol (a’u gweithluoedd) ar yr ochr gyflenwi.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd y data, methodoleg, a chyngor ar ddefnydd priodol o’r data yn yr erthygl ystadegol ategol. Anogir yn gryf i ddefnyddwyr adolygu’r ddogfen hon cyn gwneud unrhyw ddadansoddiadau gan ddefnyddio'r data.

Mae'r lluosyddion a'r effeithiau wedi eu seilio ar y tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad, mae rhai agweddau o’r broses o greu’r tablau lle mae'r data yn llai cadarn. Caiff y cyfyngiadau hyn eu hamlygu yn y fethodoleg amlinellol sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru