Tystysgrifau Nam ar y Golwg (CVI) WGOS 3 a roddwyd i drigolion Cymru yn ôl grŵp ethnig a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Ychwanegwyd data newydd (dros dro) ar gyfer 2025-26. Mae data 2024-25 hefyd wedi'i ddiweddaru i gynnwys trigolion Cymru a ardystiwyd yn Lloegr.
- 30ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Ffurflen Tystysgrif Nam ar y Golwg
- Darparwr data 2
- Ysbyty Llygaid Moorfields
- Ffynhonnell y data 2
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2012 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 3db6d854-67ca-4de3-a6e0-d441013c0575
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn dangos nifer preswylwyr Cymru sydd newydd gael eu hardystio fel rhai ag amhariad difrifol ar y golwg neu amhariad ar y golwg gyda thystysgrif amhariad ar y golwg (CVI), yn ôl grŵp ethnig eang.
Mae WGOS 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato. Mae WGOS 3 hefyd yn cynnwys Tystysgrif Amhariad ar y Golwg (CVI).
- Cyfrifo neu gasglu data
Ar gyfer 2023-24 ymlaen, caiff data eu hechdynnu o'r system golwg gwan a gynhelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac sy'n seiliedig ar ddata a gesglir o ffurflen Tystysgrif Amhariad ar y Golwg gan y Bartneriaeth. Darparwyd y data sy'n cwmpasu cyfnodau hyd at 2022-23 gan Ysbyty Llygaid Moorfields ac fe'u hechdynnwyd o'r Gronfa Ddata ar gyfer Data Epidemiolegol ar Dystysgrifau Amhariad ar y Golwg (DEVICE).
Mae'r niferoedd yn seiliedig ar breswylwyr Cymru sydd newydd eu hardystio ar ffurflenni Cymraeg a Saesneg. Ar ôl i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gymryd drosodd yr ymarfer casglu data o 2023-24 ymlaen, mae data ar gyfer preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn cael eu darparu ar wahân gan Ysbyty Llygaid Moorfields.
Er mwyn cynhyrchu'r set ddata derfynol, caiff nifer yr ardystiadau newydd eu cyfuno yn ôl grŵp ethnig eang a blwyddyn ariannol ar lefel Cymru.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw ethnigrwydd y cleifion y rhoddwyd tystysgrif amhariad ar y golwg (CVI) iddynt yn hysbys ar gyfer cyfran sylweddol o'r tystysgrifau bob blwyddyn.
Mae niferoedd llai na phump wedi'u hatal, ac mae ataliad eilaidd wedi'i gymhwyso lle bo angen i atal datgeliad drwy dynnu.
Mae'r data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn eithrio preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr. Mae hyn oherwydd bod y data hyn yn cael eu darparu gan Ysbyty Llygaid Moorfields yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac felly, bydd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn cael eu diweddaru i gynnwys preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn y cyhoeddiad nesaf.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru