Cofnodion genedigaethau mamolaeth a genedigaethau, yn ôl uned mamolaeth a bwrdd iechyd lleol, 2019 ymlaen
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 4ydd Awst 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.
- 14eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data 1
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
- Darparwr data 2
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data 2
- Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2019 i Rhagfyr 2025
- ID y set ddata
- 3cef391f-fd67-47f1-8d05-f88462aab284
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer y cofnodion genedigaethau mamolaeth a’r genedigaethau wedi’u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd lleol ac uned famolaeth.
Mae’r ystadegau hyn yn deillio o ddwy ffynhonnell ddata, sef y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD). Darperir y ddwy ffynhonnell ddata i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.
Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.
Cyfnodau cyfeirio’r data: 2016 i 2024 (Set ddata Dangosyddion Mamolaeth) 2011 i 2024 (NCCHD)
- Ansawdd ystadegol
O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn.
Ar gyfer y data 2019 yn y tabl hwn, nid yw cyfanswm Cymru yn cynrychioli cyfanswm llawn Cymru 2019 gan nad yw’n cynnwys data o fwrdd iechyd lleol Abertawe Bro Morgannwg na bwrdd iechyd lleol Prifysgol Cwm Taf.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru