Cyfanswm yr Incwm o Ffermio yng Nghymru
Disgwylir y diweddariad nesaf:30 Ebrill 2026
Diweddariadau
- 23ain Ebrill 2026
Adolygwyd y fethodoleg ar gyfer cyfrif Cyfanswm yr Incwm o Ffermio yng Nghymru ar gyfer blwyddyn galendr 2025 i sicrhau bod dulliau prosesu data ac amcangyfrif yn cyd-fynd ag arfer gorau ystadegol ac egwyddorion Cod Ymarfer yr Ystadegau. O ganlyniad i’r adolygiad hwn, gwnaed rhai diwygiadau i ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Bwriedir i’r diwygiadau hyn wella manwl gywirdeb yr amcangyfrifon hyn. Weithiau, mae angen diwygiadau ychwanegol i fireinio’r fethodoleg neu i gywiro gwallau hanesyddol. Mae’r diwygiadau a wnaed yn 2025 yn bennaf o ganlyniad i adolygiad o ddata taliadau cymorth hanesyddol a ddarparwyd gan Taliadau Gwledig Cymru (TGC), ac i newid yn y fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo data prisiau tatws.
Yn dilyn adolygiad diweddar gan Defra o’u data eu hunain, gwnaed nifer o ddiwygiadau i’w data hanesyddol o ganlyniad i welliannau yn y broses o brosesu data. Mae’r diwygiadau hyn yn effeithio ar amcangyfrifon Cyfanswm yr Incwm o Ffermio yng Nghymru lle defnyddir data Defra, gan arwain at newidiadau cyfatebol i’r ffigurau Cymreig. Am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r tîm perthnasol yn Defra drwy anfon e-bost at farmaccounts@defra.gov.uk.
- 14eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2013 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon a ragwelir o allbwn cyfun amaethyddol a chyfanswm incwm o ffermio ar lefel Cymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael hyd at fis Mawrth 2025, ac yn destun adolygiad pan fydd gwybodaeth ychwanegol ar gael.
Cyfanswm yr incwm o ffermio (TIFF):
Incwm a gynhyrchir drwy gynhyrchiant o fewn y diwydiant amaethyddiaeth, gan gynnwys cymorthdaliadau. Mae'n cynrychioli elw busnes ynghyd â thâl am waith a wneir gan berchnogion a gweithwyr di-dâl eraill. Nid yw'n cynnwys newidiadau yng ngwerth asedau, gan gynnwys stociau, oherwydd newidiadau mewn prisiau. Mae'n cynnwys gweithgareddau anamaethyddol megis prosesu pellach neu weithgareddau twristiaeth lle na ellir gwahanu'r rhain oddi wrth y busnes amaethyddol. Dyma'r mesur a ffefrir o incwm cyfun, gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu cenedlaethol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, sy'n ofynnol gan gyfrifon cenedlaethol y DU a chan Eurostat.
Adolygwyd y fethodoleg ar gyfer cyfrif Cyfanswm yr Incwm o Ffermio yng Nghymru ar gyfer blwyddyn galendr 2025 er mwyn sicrhau bod y dulliau ar gyfer prosesu data ac amcangyfrif yn cyd-fynd ag arfer gorau ystadegol ac egwyddorion Cod Ymarfer yr Ystadegau. O ganlyniad i’r adolygiad hwn, gwnaed rhai diwygiadau i ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Bwriedir i’r diwygiadau hyn wella manwl gywirdeb yr amcangyfrifon hyn. Weithiau, mae angen diwygiadau ychwanegol i fireinio’r fethodoleg neu i gywiro gwallau hanesyddol. Mae’r diwygiadau a wnaed yn 2025 yn bennaf oherwydd adolygiad o ddata taliadau cymorth hanesyddol a ddarparwyd gan Taliadau Gwledig Cymru (TGC) ac oherwydd newid yn y fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo data prisiau tatws.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r Cyfrif Cyfun Amaethyddol yn cael ei greu gan ddefnyddio data o amrywiaeth eang o ffynonellau, er enghraifft, arolygon amaethyddol, marchnadoedd da byw, sefydliadau marchnata ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
- Ansawdd ystadegol
Mae mesurau incwm yn arddangos rhywfaint o anwadalrwydd ar draws y blynyddoedd, wedi'i ddylanwadu gan amodau'r farchnad ar y pryd. Gan fod yr holl fesurau incwm yn cynnwys elfen sy'n ymwneud ag elw, mae'r mesurau hyn yn y sector amaethyddol yn fwy anwadal na mesurau mewn sectorau eraill (a ddiffinir yn nhermau incwm o gyflogau yn unig).
Mae'r amcangyfrifon yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio ystod o ddata sydd ar gael am brisiau'r farchnad gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r AHDB ar gyfer data ar y marchnadoedd grawn a llaeth yn ogystal â phwysau byw hanesyddol a phrisiau difa wedi'u pwysoli. Mae data o gofnodion cofrestru a symud gwartheg BCMS a data pacio wyau Defra hefyd yn cael eu defnyddio. Mae Arolwg diweddaraf mis Mehefin hefyd yn rhoi amcangyfrif o dueddiadau cynhyrchu o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru.
O ystyried mai TIFF yw'r gwahaniaeth cymharol fach rhwng dau rif mawr, mae'n sensitif i newidiadau canrannol bach yng ngwerthoedd allbynnau a defnydd canolraddol. Mae hyn yn golygu bod cyfuniad o ddiwygiadau llai mewn allbynnau a defnydd canolraddol yn arwain at ddiwygiadau mwy sylweddol mewn termau canrannol i Werth Ychwanegol Crynswth a TIFF.
Adolygwyd y fethodoleg ar gyfer cyfrif cyfanswm incwm o ffermio Cymru ar gyfer blwyddyn galendr 2025 i sicrhau bod dulliau prosesu ac amcangyfrif data yn cyd-fynd ag arfer gorau ystadegol ac egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. O ganlyniad i'r adolygiad hwn, gwnaed rhai diwygiadau i ffigurau ar gyfer y blynyddoedd blaenorol.
Rhoddodd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) y gorau i gyhoeddi gwybodaeth am farchnad datws Prydain Fawr ym mis Gorffennaf 2021 yn dilyn pleidlais yn y diwydiant. Ers hynny, defnyddiwyd data prisiau tatws 2020 fel amcangyfrif interim. Gan fod y dull hwn wedi dod yn llai cynrychioliadol dros amser, mae'r fethodoleg wedi'i diweddaru gan ddefnyddio tueddiadau ym mhrisiau tatws Gogledd Iwerddon i godi data tatws hanesyddol Cymru
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r miliwn agosaf.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.amaeth@llyw.cymru