Cleifion sydd wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl yr ardal ehangach haen is y maent yn byw ynddi

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Preswylfa claf
2000 o 2000 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwlad ymarfer cyffredinol
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026

Diweddariadau

30ain Ebrill 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Hydref 2025 a Ionawr 2026

16eg Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2020 i Ionawr 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) yng Nghymru, neu sy’n byw yn Lloegr, sydd wedi’u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru a chleifion sy'n byw mewn ACEHI yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru â phractisau yn Lloegr. Nid yw'r data'n cynnwys pobl sy’n byw yn Lloegr sydd wedi'u cofrestru â phractisau yn Lloegr.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r ciwb StatsCymru hwn yn seiliedig ar ddata sy’n cael eu hechdynnu bob chwarter gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) o system Gwasanaeth Demograffig Cymru. Cafodd data cyn mis Hydref 2024 eu hechdynnu o blatfform Gwasanaethau Cymwysiadau a Seilwaith Iechyd Gwladol (NHAIS).

Mae’r data chwarterol o fis Ionawr 2020 yn cael eu hechdynnu tua chanol y mis, fel arfer rhwng y 10fed a’r 16eg. Noder nad yw’r union ddyddiad echdynnu yn hysbys ar gyfer pedwar chwarter 2020.

Nid yw'r data'n cynnwys pobl sy’n byw yn Lloegr sydd wedi'u cofrestru â phractisau yn Lloegr.

Ar gyfer pobl sy’n byw yn Lloegr nid yw’r data ar lefel ardal ehangach haen is, a data cyfanredol ydynt.

Sylwer bod y ciwb StatsCymru hwn yn cynnwys rhai practisau nad ydynt yn dod o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS).

Mae'r ACEHI ar gyfer y cyfnodau hyd at Hydref 2022 yn seiliedig ar gyfrifiad 2011, ac ar gyfer Ionawr 2023 ymlaen mae'r ACEHI yn seiliedig ar gyfrifiad 2021. O ganlyniad i newidiadau a wnaed yng nghyfrifiad 2021 i rai ACEHI oedd yn seiliedig ar gyfrifiad 2011, crëwyd ACEHI newydd. Felly, bydd yr ACEHI o ddata Ionawr 2023 ymlaen ychydig yn wahanol i'r chwarteri blaenorol

Ansawdd ystadegol

Fel arfer, nid yw’n hysbys ym mha ACEHI y mae rhai cleifion yn byw ac mae’n amrywio rhwng tua 100 a 600 o gleifion fesul chwarter.

Nid oes data ar gael ar gyfer Ebrill 2022.

Ar gyfer Gorffennaf 2024, mae’r data ar gyfer preswylwyr o Loegr sydd wedi cofrestri â phractis yng Nghymru wedi’u priodoli gan ddefnyddio data Medi 2024, oherwydd materion ynghylch ansawdd data yn ddata Gorffennaf 2024.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru