Ansawdd Aer
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 31ain Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Dim dynodiad
- Darparwr data 1
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Ffynhonnell y data 1
- Crynodiad aer
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Gwybodaeth ddaearyddol
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bychain (SAPE)
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Dangosyddion Amlygiad Ansawdd Aer - crynodiad cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardaloedd awdurdodau lleol ac ardaloedd byrddau iechyd lleol, yn deillio o ddata wedi'u modelu ar gyfer pob cilomedr sgwâr yng Nghymru, a'i fesur mewn µg/m3 (data DEFRA )
µg/m3 = microgramau fesur metr ciwbig NO2 = nitrogen deuocsid PM10 = mater gronynnol gyda diamedr o 10 micromedr neu lai PM2.5 = mater gronynnol gyda diamedr o 2,5 micromedr neu lai
- Cyfrifo neu gasglu data
Bob blwyddyn mae model Llygredd Mapio Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o'r DU. Mae'r model yn cael ei galibro yn erbyn mesuriadau a gymerwyd o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU. Caiff y data hwn ei gyfuno â data poblogaeth canol blwyddyn a data annedd i ddarparu data wedi’i bwysoli yn ôl poblogaeth.
Ar gyfer pob ardal gynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol yn cynnwys tua 150 o dai), caiff y crynodiadau llygrydd eu pwysoli yn ôl nifer yr anheddau ym mhob cilometr sgwâr i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10 ar draws yr ardal gynnyrch y cyfrifiad. Ar gyfer pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol, cyfrifwyd cyfartaledd wedi'i bwysoli dros boblogaeth yr ardaloedd cynnyrch i roi crynodiad cyfartaledd NO2, PM2.5 a PM10 yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw o fewn yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd dros holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad, er mwyn rhoi ffigur cymharol ar gyfer Cymru gyfan.
- Ansawdd ystadegol
Bob blwyddyn mae'r Model Hinsawdd Llygredd ( PCM ) sy'n sail i'r mapiau cefndir yn cael eu mireinio a'u gwella ( i gymryd i ystyriaeth y wyddoniaeth a dealltwriaeth ddiweddaraf e.e. newidiadau mewn ffactorau allyriadau , data gweithgarwch gwell ac ati). Fel arfer, gwneir y newidiadau dull hyn i ffigurau y flwyddyn ddiweddaraf yn unig. Mae’r ffigurau ansawdd aer 2021 yn seiliedig ar yr amcangyfrifon poblogaeth 2020. Mae’r ffigurau ansawdd aer 2023 yn seiliedig ar yr amcangyfrifon poblogaeth 2022.
- Talgrynnu wedi'i wneud
cyfanrif
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru