Bwydo ar y fron adeg genedigaeth yn ôl y math o fwydo ar y fron a chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Hidlwyr

Blwyddyn
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
1 o 1 wedi'u dewis
Statws bwydo ar y fron
5 o 5 wedi'u dewis
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
ArdalWedi'i ddangos yn y tablCymruNi ellir newid y gwerth
Chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
Statws bwydo ar y fronWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataBlwyddynArdalChwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruStatws bwydo ar y fron
29,728Nifer2019CymruPob CymruCyfanswm
[z]Canran2019CymruPob CymruCyfanswm
16,739Nifer2019CymruPob CymruBwydo ar y fron yn unig
60.0Canran2019CymruPob CymruBwydo ar y fron yn unig
17,261Nifer2019CymruPob CymruUnrhyw fwydo ar y fron
61.9Canran2019CymruPob CymruUnrhyw fwydo ar y fron
10,637Nifer2019CymruPob CymruDdim yn bwydo ar y fron
38.1Canran2019CymruPob CymruDdim yn bwydo ar y fron
1,830Nifer2019CymruPob CymruHeb ei nodi
6.2Canran2019CymruPob CymruHeb ei nodi
7,751Nifer2019Cymru1Cyfanswm
[z]Canran2019Cymru1Cyfanswm
3,418Nifer2019Cymru1Bwydo ar y fron yn unig
47.6Canran2019Cymru1Bwydo ar y fron yn unig
3,544Nifer2019Cymru1Unrhyw fwydo ar y fron
49.3Canran2019Cymru1Unrhyw fwydo ar y fron
3,640Nifer2019Cymru1Ddim yn bwydo ar y fron
50.7Canran2019Cymru1Ddim yn bwydo ar y fron
567Nifer2019Cymru1Heb ei nodi
7.3Canran2019Cymru1Heb ei nodi
6,267Nifer2019Cymru2Cyfanswm
[z]Canran2019Cymru2Cyfanswm
3,267Nifer2019Cymru2Bwydo ar y fron yn unig
55.5Canran2019Cymru2Bwydo ar y fron yn unig
3,356Nifer2019Cymru2Unrhyw fwydo ar y fron
Yn dangos 1 i 25 o 490 rhes
Page 1 of 20

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2027

Diweddariadau

7fed Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2019 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
3617fe0e-ac51-4041-aa02-ffe8a600fd30

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni yn ôl y math o fwydo ar y fron a chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae'r ystadegau hyn yn deillio o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol lle cymerir y data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed ac maent yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Darperir y data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Mae’r canrannau yn cynrychioli cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron. Mae cyfanswm nifer y cofnodion o ran cyfrifiadau canran ar gyfer ‘genedigaeth’ yn cyfeirio at bob genedigaeth fyw.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau. Fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd wneud newidiadau i ddata ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Mae data bwydo ar y fron ar bob pwynt mewn amser yn destun materion o ran ansawdd y data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Nid oes gan bob cofnod yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2025, roedd fel a ganlyn:

  • 89% ar adeg genedigaeth
  • 91% yn 10 diwrnod
  • 88% yn chwe wythnos
  • 84% yn 6 mis.

Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd..

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru