Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes diogelwch cymunedol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 22ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Ffynhonnell y data 1
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 2
- Swyddfa Gartref
- Ffynhonnell y data 2
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bychain (SAPE)
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.
Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).
Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.
Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 6 dangosydd sy'n ffurfio'r maes diogelwch cymunedol. Mae’r holl ddangosyddion wedi cael eu talgrynnu i 2 le degol.
Ataliwyd data y dangosydd os oedd llai na 5 achos.
Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.
- Cyfrifo neu gasglu data
Diben y maes hwn yw mesur amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Mae chwe dangosydd yn y maes diogelwch cymunedol, sydd wedi'u pwysoli fel a ganlyn. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau'r dangosyddion.
- 61% Difrod Troseddol a Gofnodwyd gan yr Heddlu
- 19% Troseddau Treisgar a Gofnodwyd gan yr Heddlu
- 8% Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gofnodwyd gan yr Heddlu
- 5% Bwrgleriaethau a Gofnodwyd gan yr Heddlu
- 4% Achosion o Ddwyn a Gofnodwyd gan yr Heddlu
- 3% Digwyddiadau Tân
Mynegir pob un o'r dangosyddion fel cyfraddau, gyda'r rhifiadur yn cynnwys nifer y troseddau/digwyddiadau/tanau fesul ACEHI (wedi'i gyfartaleddu dros ddwy flynedd) a'r enwadur yn cynnwys nifer y bobl/eiddo yn yr ACEHI.
Ar gyfer pob dangosydd, cafodd pob ACEHI ei rhoi mewn trefn restrol, gyda'r ACEHI fwyaf difreintiedig yn y safle 1af a'r ACEHI leiaf difreintiedig yn safle 1,909. Cafodd y safleoedd hyn eu pennu i wasgariad normal, gyda safleoedd isel yn cael sgôr wedi'i normaleiddio isel. Wedyn, fe'u cyfunwyd gan ddefnyddio'r pwysoliadau uchod.
- Ansawdd ystadegol
Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru