Meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth, yn ôl bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 30ain Mehefin 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025
- 27ain Mawrth 2026
Wedi'i symud i faes pwnc 'Meddygaeth deulu'
- 27ain Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Locum Hub Wales (LHW)
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Darparwr data 3
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
- Cyfnod amser dan sylw
- Rhagfyr 2021 i Medi 2025
- ID y set ddata
- 3525ae7c-3d10-4fde-b558-56cab4b77847
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae hyn yn dangos nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, ar bob dyddiad cipolwg chwarterol ers 31-Rhag-21.
- Cyfrifo neu gasglu data
Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.
Mae’r cyfraddau’n seiliedig ar y niferoedd cyfwerth ag amser llawn ac ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadgau Gwladol. Mae'r data poblogaeth yn ymwneud â'r un flwyddyn â data'r gweithlu: mae hyn yn golygu bod y cyfraddau a gyhoeddwyd ddiweddaraf ar gyfer 31 Mawrth, 30 Mehefin a 30 Medi yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth y flwyddyn flaenorol a byddant yn cael eu diwygio gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth y flwyddyn ddilynol yn y datganiad ystadegol nesaf.
Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau ar ddyddiad y ciplun.
- Ansawdd ystadegol
Gweler yr adroddiad ansawdd ystadegol am ragor o wybodaeth am ystadegau gweithlu practisau cyffredinol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru