Cofnodion asesu cychwynnol mamolaeth, cofnodion genedigaethau mamolaeth, genedigaethau byw a marw yn ôl fwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

4ydd Awst 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata’r flwyddyn flaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r]. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
340edfd2-1da4-41de-a2b4-58dece333f1c

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer y cofnodion asesiadau cychwynnol mamolaeth, cofnodion genedigaethau mamolaeth, genedigaethau byw a marw-enedigaethau yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Mae’r data hyn yn deillio o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.

Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.

Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.

Mae’n cynnwys y nifer canlynol o cofnodion genedigaethau mamolaeth nad oedd yn bosibl eu cysylltu â chofnod asesu cychwynnol. 717 yn 2016, 747 yn 2017, 719 yn 2018, 1,522 yn 2019, 969 yn 2020, 903 yn 2021, 598 yn 2022, 654 yn 2023, 659 yn 2024 a 349 yn 2025.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru