Pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws mudwr pennaeth y cartref a gwlad

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws mudwr pennaeth y cartref
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwlad
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:2027

Diweddariadau

26ain Mawrth 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data
Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog, Arolwg adnoddau teuluol
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2019 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn dangos pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws mudwr pennaeth y cartref.

Mae'r ffigyrau a ddangosir ar gyfer cyfartaledd newidiol 5 blynedd.

Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ar yr holl bobl sy'n byw mewn cartrefi sydd ag incwm aelwyd islaw 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd y DU ar ôl i gostau tai gael eu talu.

Cyflwynir y ffigurau mewn tair ffordd:

  • Mae risg yn mesur cyfran y unigolion gyda'r nodwedd benodol mewn tlodi incwm cymharol fel canran o'r holl unigolion gyda'r nodwedd benodol.
  • nifer: yn amcangyfrif o sawl bobl â’r nodwedd benodol sydd mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru
  • cyfansoddiad: yn mesur cyfran y bobl mewn tlodi incwm cymharol gyda’r nodwedd benodol fel canran o bobl mewn tlodi
Cyfrifo neu gasglu data

Darparwyd y data gan tim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mewnfudwyr yw'r rhai a aned y tu allan i'r DU

Ansawdd ystadegol

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r FRS sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 1,200 o aelwydydd yn FYE 2025). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid sut mae ystadegau'r Arolwg Adnoddau Teulu yn cael eu cynhyrchu i wella ystadegau tlodi. Gwybodaeth am brif fudd-daliadau'r wladwriaeth a chredydau treth bellach yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn hytrach nag ymatebion arolwg. Mae'r newid hwn yn berthnasol o flwyddyn ariannol sy'n dod i ben (FYE) 2022 ymlaen. O ganlyniad, mae'r cyfartaledd 3 blynedd gyntaf a gynhyrchir ar y sail newydd yn cwmpasu FYE 2021 i FYE 2023 (oherwydd materion sy'n effeithio ar FYE 2021). Mae mesurau incwm isel allweddol ar ôl y pwynt hwn wedi newid, gan greu toriad yn y gyfres ddata yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022. Ni ddylai defnyddwyr wneud cymariaethau uniongyrchol o'r mesurau incwm isel ar draws y toriad hwn. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Mae amcangyfrifon FYE 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan wnaeth rheolau'r cyfyngiadau symud amharu'n ddifrifol ar y casglu data. Nid yw amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy'n rhychwantu'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod FYE 2021 mewn cyfrifiadau.

Roedd y casgliad o ddata yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2022 drwy gyfweliadau ffôn yn hytrach na'r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er ein bod wedi asesu ansawdd data FYE 2022 i fod yn ddigon cadarn i'w gyhoeddi, mae rhywfaint o ragfarn weddilliol o hyd yn sampl yr arolwg sy'n deillio o'r newid yn y modd arolygu. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cyd-fynd â rhyddhau ystadegau FYE 2022.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru