Data amddifadedd hirsefydlog Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 15fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 1
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 2
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ffynhonnell y data 2
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 3
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 4
- Swyddfa Gartref
- Ffynhonnell y data 4
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 5
- Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Ffynhonnell y data 5
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 6
- Yr Adran Addysg
- Ffynhonnell y data 6
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 7
- Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
- Ffynhonnell y data 7
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 8
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Ffynhonnell y data 8
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 9
- Cyllid a Thollau EF
- Ffynhonnell y data 9
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 10
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 10
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 11
- Arolwg Ordnans
- Ffynhonnell y data 11
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 12
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Ffynhonnell y data 12
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 13
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data 13
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 14
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data 14
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 15
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 15
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 16
- NHS England
- Ffynhonnell y data 16
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 17
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Ffynhonnell y data 17
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.
Mae'r data yma yn sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog MALlC 2019. Gellir gweld y dadansoddiad hwn yn adroddiad canlyniadau MALlC 2019.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae MALlC 2019 yn pennu safle pob un o'r 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau wedi'u ddiffinio gan Gyfrifiad 2011) o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,909) difreintiedig.
Mae'r data hyn yn cynnwys safleoedd MALlC cyffredinol a safleoedd y meysydd ar gyfer 5 fersiwn o MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019) ac mae'n nodi i ba gategori o amddifadedd hirsefydlog y mae pob ardal yng Nghymru yn perthyn iddo, yn 2019.
- Cyfrifo neu gasglu data
Sut mae MALIC yn cael ei adeiladu
Mae tri phrif gydran i fynegai 2019:
- y 47 set ddata dangosyddion sylfaenol
- safleoedd ar gyfer y 8 maes (neu fathau) wahanol o amddifadedd, wedi’u creu drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob parth
- safleoedd cyffredinol MALIC, wedi’u creu drwy gyfuno safleoedd y meysydd
Mae’r holl gydrannau hyn yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob un o’r ardaloedd bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is neu ACEHIau) yng Nghymru ac yn cael eu cyhoeddi. Gellir dod o hyd i restr lawn o’r dangosyddion yn yr adroddiad canlyniadau.
Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i chynllunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar ben mwyaf amddifadedd y dosbarthiad, ond nid ar ben lleiaf amddifadedd. Mae hyn yn golygu nad yw gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf amddifad yng Nghymru mor glir â’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwy amddifad.
Categorïau o amddifadedd hirsefydlog
ACEHI mewn amddifadedd hirsefydlog: ACEHI sydd wedi aros yn y 50 mwyaf difreintiedig yn y pum fersiwn o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI sy'n symud mewn ac allan o'r 50 mwyaf difreintiedig: ACEHI sydd wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer rhwng dau a phedwar o'r pum fersiwn o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI sy'n ymddangos unwaith yn y 50 mwyaf difreintiedig: ACEHI sydd wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer un o'r pum fersiwn o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI nad ydynt erioed wedi ymddangos yn y 50 mwyaf difreintiedig: ACEHI nad ydynt erioed wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig am y pum fersiwn o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
- Ansawdd ystadegol
Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.
Cafodd ffiniau nifer bach o ACEHIau eu newid yn dilyn Cyfrifiad 2011, yn sgil newidiadau a nodwyd ym maint poblogaethau ardaloedd bach. Yn yr achosion hyn, ni ddangosir data o MALlC 2005, 2008 a 2011 gan nad yw hyn yn gymaradwy â data diweddarach.
Mewn rhai achosion, newidiwyd y ffiniau ar gyfer ACEHI trwy rannu AGEHI yn 2 neu fwy o ACEHI newydd. Yn yr achosion hyn, gall y data AGEHI ar gyfer blynyddoedd mynegai hŷn gyfateb i ddata a ddangosir ar gyfer rhai ACEHI eraill (gan eu bod yn un ardal o'r blaen).
Nid oes data ar gyfer y maes hwn yn 2005 gan na chafodd y maes diogelwch cymunedol ei gyflwyno tan MALlC 2008. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r Crynodeb o'r newidiadau i MALlC.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru