Cymorth ar gyfer gwelliannau tai yn ôl derbynnydd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
20 o 20 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Derbynnydd
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Casgliad data am adfywio sector preifat
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2003 i Mawrth 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma yn gysylltiedig a chymorth ar gyfer adnewyddu tai, sydd yn cael ei ariannu yn bennaf gan Awdurdodau Lleol. Mae’r wybodaeth yn cael ei gasglu yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu a monitro cyfanswm y gwariant ar draws Cymru ar adnewyddu'r sector preifat a nifer yr anheddau sydd wedi gwella. Mae’n cael ei defnyddio i fonitro tueddiadau mewn gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal gan Awdurdodau Lleol i wella ansawdd y stoc tai o fewn eu hardal. Mae hyn yn helpu i fonitro effeithiolrwydd y polisi presennol yn enwedig y cynnydd yn erbyn amcanion y Strategaeth Tai Genedlaethol ac ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.

Gall awdurdodau lleol gynnig cymorth ariannol i berchnogion tai ar gyfer gwelliant ac atgyweirio’r cartref. Gall hyn gynnwys grantiau a benthyciadau ar gyfer caffael, adnewyddu, gwella, atgyweirio, cael gwared ac adleoli llety. Mewn nifer o achosion mae’r cymorth yn targedu grwpiau bregus fel yr anabl neu’r henoed. Cyfeirir at y cymorth yma fel gweithgaredd adnewyddu’r sector preifat.

Mae’r wybodaeth a ddangosir yn cynnwys gweithgarwch o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Ym mis Gorffennaf 2003, cyflwynodd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 drefniadau newydd, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wrth ymdrin â phroblemau cyflwr y stoc leol.

Cyfrifo neu gasglu data

Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma yn flynyddol drwy ddatganiadau blynyddol awdurdodau cynllunio Cymru am gymorth ar gyfer adnewyddu tai.

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru