Cyflenwi meddyginiaethau brys: eitemau a roddwyd amlaf yn ôl blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 12fed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau Presgripsiwn
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2017 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys yn un o wasanaethau’r GIG a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Mae’n caniatáu i gleifion gael cyflenwad tymor byr o’u meddyginiaethau a roddwyd ar bresgripsiwn yn flaenorol pan fydd angen y meddyginiaethau hynny arnynt ar frys a phan na allant gael presgripsiwn mewn pryd. Mae’r set ddata hon yn dangos y deg meddyginiaeth a roddwyd amlaf gan fferyllwyr drwy’r Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys ym mhob blwyddyn.
Ni chaiff meddyginiaethau a roddir drwy’r Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys eu codio yn union fel y gwneir ar gyfer meddyginiaethau a gaiff eu dosbarthu gan fferyllfeydd drwy bresgripsiynau. Ni chânt eu grwpio felly yn ôl pennod Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain fel sy’n digwydd ar gyfer data presgripsiynau.
Caiff meddyginiaethau eu grwpio yn ôl sut y cânt eu cofnodi yn y data crai, sydd fel arfer yn cynnwys brand neu enw’r cyffur, dos a ffurf y feddyginiaeth. O ganlyniad, efallai y bydd yr un feddyginiaeth wedi’i chofnodi sawl gwaith yn y set ddata os oes ganddi ddos a / neu ffurf wahanol.
Gall y deg eitem a roddwyd amlaf fod yn wahanol rhwng blynyddoedd, felly mae dadansoddiad o feddyginiaethau ar hyd y gyfres amser yn gyfyngedig. Mae’r newidynnau fel a ganlyn: Blwyddyn – y flwyddyn ariannol lle y cofnodwyd y cyflenwad o feddyginiaeth ynddi, eitem y feddyginiaeth – enw’r feddyginiaeth a roddwyd a eitemau a roddwyd – y nifer o weithiau y cafodd yr eitem ei rhoi o dan y gwasanaeth.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff data eu casglu o ffurflenni hawlio rheolaidd a gyflwynir gan fferyllfeydd cymunedol ar gyfer Cyflenwi Meddyginiaethau Brys. Mae pob ffurflen hawlio yn cynnwys manylion y feddyginiaeth a roddwyd. Caiff data eu hechdynnu a’u cydgrynhoi i gynhyrchu cyfansymiau blynyddol. Caiff eitemau eu rhestru o fewn pob blwyddyn yn seiliedig ar gyfanswm y nifer a roddwyd. Ni ddefnyddir amcangyfrifon na modelu.
- Ansawdd ystadegol
Mae’r data yn deillio o ffurflenni hawlio gweinyddol. Maent yn adlewyrchu’r eitemau y gwnaethpwyd cais ar eu cyfer ac y’u proseswyd i’w talu. Mae ansawdd y data yn dibynnu ar gyflwyno ffurflenni hawlio cywir a chodio meddyginiaethau yn gywir. Gall ffurflenni hawlio a gyflwynwyd yn hwyr neu addasiadau hwyr effeithio ar gyfansymiau.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru