Enillion canolrifol yr awr a gwahaniaeth cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yn ôl ethnigrwydd yng Nghymru a'r DU
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2027
Diweddariadau
- 14eg Mai 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2014 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn darparu amcangyfrifon o'r enillion canolrifol fesul awr a'r gwahaniaethau cyflog rhwng enillion canolrifol fesul awr yn achos gweithwyr 16 oed a hŷn yn ôl ethnigrwydd yng Nghymru a'r DU.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae gwyn yn cynnwys ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy'n uniaethu fel 'Gwyn - Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig' ac ymatebwyr yn yr Alban sy'n uniaethu fel 'Gwyn - Polish'.
Mae'r categori Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn cynnwys y grwpiau ethnig canlynol: Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Unrhyw Gefndir Asiaidd arall, Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig, Grwpiau ethnig cymysg/amlethnig, Grŵp ethnig arall. Mae'r grŵp ethnig Arall yn cynnwys ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon sy'n uniaethu fel 'Teithiwr Gwyddelig' ac ymatebwyr ym mhob gwlad yn y DU sy'n uniaethu fel 'Arabaidd'.
Mae'r categorïau grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cyfuno gan nad yw meintiau sampl yn ddigonol i adrodd arnynt ar lefel is.
Cyfrifir canrannau gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn enillion fesul awr rhwng gweithwyr Gwyn a Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrirol â’r enillion canolrifol fesul awr ar gyfer gweithwyr Gwyn.
Mae gweithwyr yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at yr holl weithwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser.
- Ansawdd ystadegol
Mae’r data yn amcangyfrifon a seilir ar samplau sy'n deillio o arolwg ac felly’n destun gwahanol raddfeydd o amrywioldeb samplu, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i'w weld mewn ystod amrywiol o bob tu'r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft byddai data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Mae'r APS wedi gweld gostyngiad ym maint samplau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli eto yn unol â'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth. Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylai defnyddwyr nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Er hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol llai neu is-grwpiau o'r boblogaeth yn llai dibynadwy.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd amcangyfrifon y farchnad lafur o dan APS a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn, gweler ein datganiad diweddaraf Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth).
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae canrannau gwahaniaethau cyflog wedi'u talgrynnu i un lle degol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru