Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes yr amgylchedd ffisegol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

6ed Chwefror 2026

Newidiadau fformatio bach

16eg Rhagfyr 2025

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI.

27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Arolwg Ordnans
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 3
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Ffynhonnell y data 3
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 7 dangosydd sy'n ffurfio'r maes amgylchedd ffisegol.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn ardal. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Maes yr amgylchedd ffisegol yn cynnwys 7 dangosydd, wedi’u grwpio’n 4 is-faes ac maent wedi’u pwysoli’n gyfartal ynddynt.

Mae’r is-faes ansawdd aer yn cynnwys 3 dangosydd sydd â’r un pwysoliad sy’n mesur y gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer y llygryddion allweddol:

  • nitrogen deuocsid (NO2)
  • gronynnau llai na 10 micrometr μm (PM10)
  • gronynnau llai na 2.5 micrometr μm (PM2.5) Mae’r data llygryddion yn ymwneud â 2023 ac yn dod o’r Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Mae sgôr yr is-faes perygl llifogydd yn seiliedig ar gyfran yr aelwydydd sy’n wynebu perygl llifogydd o afonydd, y môr neu lifogydd dŵr wyneb, ond nid yw'n cyfrif am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae’r data yn ymwneud â 2025 ac yn dod o Asesu Perygl Llifogydd yng Nghymru (FRAW), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r is-faes mannau gwyrdd yn cynnwys 2 ddangosydd sydd â’r un pwysoliad:

  • y dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch sy’n mesur cyfran yr aelwydydd ym mhob ardal sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o tua 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Mae’r data yn ymwneud â 2025 ac yn dod o Arolwg Ordnans a CNC.
  • y sgôr ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol sy’n mesur pa mor wyrdd yw ardal gan ddefnyddio sgôr Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio cymedrig cartrefi (NDVI) o fewn clustogfa o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl. Mae’r data yn ymwneud â 2024 ac yn dod o ddelweddau lloeren adlewyrchol wyneb 3m gan Planet a broseswyd gan Brifysgol Abertawe

Mae sgôr yr is-faes llygredd sŵn yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n fwy na 55 desibel neu’n hafal i hynny. Mae’r data yn ymwneud â 2025 ac yn dod o fapiau sŵn strategol Rownd 4, System Modelu Sŵn, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae’r data yn ymwneud â 2021.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Mae cyfrifiadau’r dangosyddion yn seiliedig ar ystod o ffynonellau swyddogol yn bennaf, gyda rhai elfennau wedi’u hamcangyfrif drwy fodelu.

Mae’r dangosydd Perygl Llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae’r risg yn seiliedig ar amlder rhagweledig, yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan y llifogydd, ac nid yw’n cyfrif am amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Talgrynnu wedi'i wneud

Pob dangosydd wedi’i grynhoi i 1 pwynt degol

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru