Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Living Wage
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026

Ychwanegwyd data ar gyfer 2025 a data diwygiedig ar gyfer 2024.

15fed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2012 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r data hyn yn dangos nifer y bobl mewn gwaith sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol man lleiaf ar gyfer gwledydd y DU/rhanbarthau Lloegr. Mae’r data’n gysylltiedig â gweithwyr amser llawn a rhan-amser sydd ar gontractau parhaol neu ar gontractau dros dro ac nad ydynt yn chwilio am swyddi parhaol.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyflog byw gwirioneddol ar gael ar wefan Sefydliad Cyflog Byw.

Cyfrifo neu gasglu data

Cymerir y data hyn o'r setiau data blynyddol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaethy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u gyhoeddi’n chwarterol ar sail treigl 12 mis.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Ansawdd ystadegol

Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ABB) wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.

Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i roi arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae amcangyfrifon o'r niferoedd mewn cyflogaeth yn cael eu talgrynnu i'r 100 agosaf. Mae amcangyfrifon o'r canrannau mewn cyflogaeth yn cael eu talgrynnu i 1 lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru