Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb rhaglen, sefydliad a chomisiynydd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 21ain Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Dim dynodiad
- Darparwr data
- Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol
- Ffynhonnell y data
- Datganiadau cyllideb rhaglenni gan y byrddau iechyd lleol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2009 i Mawrth 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn darparu dadansoddiad o wariant y GIG wedi'i rannu'n rhaglenni gofal yn seiliedig ar gyflyrau iechyd cleifion fel dewis arall yn hytrach na dadansoddiad yn ôl math o ofal neu leoliad. Cyflwynir cyfanswm gwariant y GIG gan fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG (ac eithrio gwariant o Gwella Addysg Iechyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru) yn ôl rhaglen ofal, sefydliad a chomisiynydd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Darperir data gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru ac mae'n seiliedig ar ddatganiadau ariannol gan fyrddau iechyd lleol.
Diffinnir rhaglenni gofal (neu gategorïau cyllideb rhaglenni) gan godau Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau Fersiwn 10 (ICD 10). Mae rhywfaint o wariant yn cael ei ddyrannu i raglenni gofal gan ddefnyddio dulliau amcangyfrif ac nid yw swm bach o wariant yn cael ei ddyrannu i raglen ofal.
Mae dyrannu gwariant i gategorïau rhaglenni gofal ar gyfer gofal eilaidd yn seiliedig ar godio clinigol a gymhwysir i weithgareddau Gofal Cleifion a Dderbynnir ar lefel claf, tra ar gyfer gofal sylfaenol mae gwariant ar gyffuriau a gwasanaethau fel deintyddol ac optegwyr yn cael eu dyrannu'n uniongyrchol i raglenni, ond nid yw'r mwyafrif wedi'i ddyrannu i gategorïau clinigol penodol.
- Ansawdd ystadegol
Mae canran y gwariant a ddyrannwyd i raglenni gofal gan ddefnyddio dulliau amcangyfrif a gwariant heb ei ddyrannu wedi cynyddu dros y bynyddoedd diwethaf sy'n effeithio ar ansawdd data gwariant rhaglenni gofal ac yn cyfyngu ar gadernid dadansoddi cyfresi amser. Ar ben hynny, gall newidiadau o flwyddyn i flwyddyn fod oherwydd newidiadau mewn methodoleg dyrannu ac nid newidiadau gwirioneddol mewn blaenoriaethau gwariant.
Mae Clefydau eraill o ran cylchrediad y gwaed yn debygol o gynnwys gwariant sylweddol ar gyfer Clefyd coronaidd y galon a Chlefyd serebro-fasgwlaidd na ellir ei ddadansoddi yn uniongyrchol o dan y ddau is-gategori hwnnw.
O 2012-13 ymlaen, mae'r is-gategori Methiant cronig yr arennau wedi ei gynnwys gyda Problemau arennol, a chyflwynwyd is-gategori newydd sef Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar gyfer gwariant a arferai gael ei gynnwys gyda Problemau'r llwybr cenhedlol.
Mae Swyddogaethau eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys gwella iechyd, gwella gofal iechyd, diogelu iechyd a swyddogaethau corfforaethol. Roedd gwariant ar swyddogaethau eraill Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnwys o dan Gwariant arall yn y blynyddoedd cyn 2010-11.
Mae rhagor o wybodaeth am brosesau sy'n arwain at gynhyrchu'r ystadegau yn cael eu manylu yn yr Adroddiad Ansawdd.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru