Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

6ed Chwefror 2026

Newidiadau fformatio bach

16eg Rhagfyr 2025

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI.

27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Cyfrifiad 2021
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Cofrestriadau genedigaeth
Darparwr data 4
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 4
Cofrestriadau marwolaethau
Darparwr data 5
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell y data 5
Rhaglen Mesur Plant (RMP) Cymru
Darparwr data 6
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell y data 6
Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)
Darparwr data 7
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data 7
Audit+

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 7 dangosydd sy'n ffurfio'r maes iechyd. Mae'r holl ddangosyddion yn cael eu talgrynnu i un lle degol.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chasglu gwybodaeth am ragfynegyddion iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd a brofwyd yn ystod plentyndod.

Mae'r maes iechyd yn cynnwys y dangosyddion:

  • canran o pwysau geni isel (genedigaethau byw unigol sy'n llai na 2.5kg), 2015 i 2024 (SYG)

  • canran o plant 4 i 5 oed sy'n ordew, 5 mlynedd wedi'u cyfuno: 2016/17, 2017/18, 2018/19, 2022/23 a 2023/24 (Iechyd Cyhoeddus Cymru) – nid yw data dangosydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer hyn (fel yr eglurir yn yr adroddiad technegol)

  • cyfradd fesul 100,000 o cyflyrau cronig wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)

  • cyfradd fesul 100 o cyflyrau iechyd meddwl wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)

  • cyfradd fesul 100 o achosion o ganser, pob malaenedd ac eithrio canser y croen nad yw'n felanoma, 2012 i 2021 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

  • cyfradd fesul 100 o marwolaethau cynamserol: marwolaeth o dan 75 oed, 2015 i 2024 (SYG)

  • cyfradd fesul 100,000 o salwch hirdymor cyfyngus a hunanadroddwyd, 2021 (SYG, Cyfrifiad 2021)

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Mae 5 dangosydd yn y maes hwn wedi’u safoni yn anuniongyrchol yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach.

Ymchwiliwyd i’r data ar gyfer pob dangosydd er mwyn asesu effaith pandemig COVID-19 ar dueddiadau ac ansawdd data.

Roedd y pandemig wedi tarfu ar y data ar gyfer un dangosydd, sef plant gordew, sy’n golygu nad oes unrhyw ddata ar gyfer 2019/20 i 2021/22 ar gael i Gymru gyfan.

Roedd salwch hirdymor cyfyngus yn hunangofnodedig yn ystod mis Mawrth 2021, ychydig dros flwyddyn ers i’r pandemig gael ei ddatgan. Fodd bynnag, gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng y data a thueddiadau Cyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019.

Mae gan ddau ddangosydd arall, sef nifer yr achosion o ganser a marwolaethau cynamserol, rychwantau treigl o ddeng mlynedd sy’n ymestyn y tu hwnt i gam cynnar y pandemig (a ddaeth i ben yn 2021 a 2024 yn y drefn honno). Mae rhai effeithiau pandemig COVID-19 yn y tymor hwy yn debygol o fod yn bresennol yn y data (ond wedi’u cyfuno â set hwy o ddata o’r cyfnod cyn y pandemig).

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 7 dangosydd sy'n ffurfio'r maes iechyd. Mae'r holl ddangosyddion yn cael eu talgrynnu i un lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru