Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul oedran, Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes cyflogaeth

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp oedran
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

30ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Weinyddiaeth Gyfiawnder
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bychain (SAPE)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.

Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd amddifadedd cyflogaeth fesul oedran ar gyfer ACEHI ac awdurdodau lleol. Mae'r dangosydd wedi'i dalgrynnu i un lle degol.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am ddiffyg cyflogaeth. Mae'n cynnwys y boblogaeth oedran gweithio sy'n cael ei heithrio'n anwirfoddol o waith, gan gynnwys y rhai na allant weithio oherwydd salwch neu sy'n ddi-waith, ond sydd wrthi'n chwilio am waith. Mae gan y maes Cyflogaeth bwysoliad cymharol o 22% ym Mynegai MALlC 2019 cyffredinol.

Mae'r maes cyflogaeth yn cynnwys un dangosydd, gyda phedair elfen iddo, sef:

  • Lwfans Ceisio Gwaith;
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth;
  • Budd-dal Analluogrwydd (sydd wedi disodli Lwfans Anabledd Difrifol)
  • Credyd Cynhwysol ac nid mewn cyflogaeth

Mynegir y dangosydd hwn fel canran o'r boblogaeth breswyl oedran gweithio ar gyfer pob ACEHI, gyda phoblogaeth y carchardai yn cael ei didynnu o'r pedair ACEHI sy'n cynnwys carchardai yng Nghymru (yn 2016).

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru