Archwiliadau WGOS 2 yn ôl band a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Ychwanegwyd data ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
- 30ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Ffurflen Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2015 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 2dbb76bc-8fb3-427d-a46a-445020ab8bc4
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr archwiliadau iechyd llygaid a ddarperir drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 2. Mae WGOS 2 yn darparu gofal llygaid hygyrch yn y gymuned i gleifion sydd â phroblemau llygaid acíwt neu sy'n wynebu risg o ddatblygu clefyd llygaid.
Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd, band archwilio, a blwyddyn ariannol. Mae bandiau archwilio yn disgrifio'r math o archwiliad llygaid. Band 1: gofal llygaid acíwt ac atgyfeiriadau gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall; Band 2: archwiliad pellach i gynorthwyo neu atal atgyfeiriad; a Band 3: dilyniant i Fand 1 ac asesiad ar ôl triniaeth cataract.
Cyn 2023-24, roedd gwasanaethau tebyg yn cael eu darparu o dan gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data yn seiliedig ar hawliadau a gyflwynir gan bractisau i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) er mwyn cael taliad. Mae practisau’n cyflwyno ffurflen EHEW i PCGC, ac yna caiff y data hwn ei brosesu ar eu system daliadau K2. Caiff data ei echdynnu o’r system K2 a’i ddarparu i Lywodraeth Cymru.
Caiff y data ei grwpio yn ôl math o sgrinio yn dri band, gan gyfuno data ar draws lleoliadau ymweliadau cartref, ymweliadau cartref rhannol ac optometreg ar gyfer pob band. Cyfrifir cyfansymiau drwy agregu’r data yn ôl blwyddyn, bwrdd iechyd a band, gyda chyfansymiau ychwanegol ar gyfer Cymru yn cael eu cyfrifo drwy grynhoi ar draws y byrddau iechyd.
- Ansawdd ystadegol
Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru