Gofyniad cyllideb yn ôl awdurdod
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2027
Diweddariadau
- 24ain Mawrth 2026
Ychwanegwyd data 2026-27.
- 20ain Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data Gofynion Cyllideb (BR1)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1996 i Mawrth 2027
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Llywodraeth Cymru sy'n cynnal yr arolwg gofynion cyllideb. Mae data ar gael ynglyn â gwariant refeniw, yn net o werth grantiau penodol ac unrhyw drosglwyddo i/o gronfeydd, a gyllidebwyd gan bob cyngor sir ac awdurdod yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r data hefyd yn cynnwys dadansoddiad eang o'r modd o ariannu'r gwariant hwnnw, gan gynnwys lefelau'r dreth gyngor a osodir gan bob awdurdod.
Mae'r data yn cwmpasu Cymru ar gyfer pob blwyddyn ers 1996-97. Mae data ar gyfer blynyddoedd cynt ar gael ar gyfer dosbarthau a siroedd blaenorol Cymru, a ad-drefnwyd ar 1 Ebrill 1996. Mae data ar gyfer awdurdodau heddlu unigol ar gael ar gyfer pob blwyddyn ers 1995-96, pan ddaeth y cyrff hyn yn rhai â'r pwerau i osod eu treth gyngor eu hunain.
Mae'r arolwg wedi ei gynnal bob mis Chwefror ers 1993-94. Mae'r canlyniadau ar gael yn hwyr ym mis Mawrth, tua un wythnos cyn dechrau'r flwyddyn ariannol gyfeirio.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data y gofynnir amdanynt gan awdurdodau lleol, yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth.
- Ansawdd ystadegol
Cesglir y data drwy gyfrwng arolwg 100% felly ni chaiff unrhyw amcangyfrif o'r ffigurau ei gyfrifo, ac o'r herwydd, nid oes unrhyw wall samplu.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cyllid@llyw.cymru